Mathau o Geisiadau

Mae dau fath o Geisiadau ar gyfer Cymeradwyo Rheoliadau Adeiladu:-

  • Cais am Gynlluniau Llawn
  • Cais am Hysbysiad Adeiladu.

Mae hefyd cais ar gyfer gwaith eisoes wedi’i gwblhau :-

  • Cais Unioni 

Cynlluniau Llawn

Mae’r opsiwn hwn yn cynnwys cyflwyno cynlluniau manwl a manyleb ar gyfer y gwaith arfaethedig. Mae’r cynlluniau’n cael eu gwirio’n fanwl a chaiff y penderfyniad ei gyhoeddi o fewn  wythnos. Mae’n bosib bydd hyn yn cael ei ymestyn i 8 wythnos gyda chydsyniad yr ymgeisydd.

Dylai’r cais gynnwys:

  • Dyluniadau manwl o’r gwaith cyfredol / arfaethedig
  • Cynllun o leoliad y safle, wrth raddfa, yn dangos y cais a ffiniau’r safle a safle’r carthffosydd cyhoeddus
  • Copi o unrhyw fanyleb i gyd-fynd â’r dyluniadau
  • Os yw’r cais yn destun Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005, rhaid cynnwys dyluniadau diogelwch tân yn cynnwys: trefniadau gwrthsefyll tân, adraniad, dulliau darganfod tân a larymau, golau brys, trefniadau dianc ac arwyddion
  • Dyluniad strwythurol a chyfrifiadau
  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau a’r ffi briodol ac, os oes angen, amcangyfrif o gost y gwaith

Lawrlwytho ffurflen gais Rheoliadau Adeiladu.

Hysbysiad Adeiladu

Mae cais am Hysbysiad Adeiladu yn cynnwys darparu manylion y cais ar Ffurflen Hysbysiad Adeiladu. Ni anfonir penderfyniad ffurfiol, dim ond cydnabyddiaeth o’r Hysbysiad Adeiladu. Rhaid i geisiadau am Hysbysiad Adeiladu gynnwys:

  • Ffurflen Hysbysiad Adeiladu wedi’i chwblhau
  • Os yw’r cais am adeilad newydd neu estyniad, dyluniad wrth raddfa yn dangos : lleoliad a ffiniau’r safle
  • Y ffi briodol ac amcangyfrif os oes angen

Mae Hysbysiad Adeiladu fwyaf addas ar gyfer datblygiadau bach, domestig, er gellir eu defnyddio ar gyfer tai newydd ac estyniadau. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni am gyngor pellach.

Ni ddylid defnyddio Hysbysiad Adeiladu ar gyfer:

  • Unrhyw adeilad sy’n destun deddfwriaeth tân h.y. y mwyafrif o adeiladau masnachol, diwydiannol a siopa.
  • Tai sy’n wynebu strydoedd preifat (ac eithrio’r mwyafrif o dai newydd); ac
  • Adeilad neu estyniad sydd dros neu o fewn tri metr o garthffos gyhoeddus.

Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno cynlluniau neu gyfrifiadur gyda chais am Hysbysiad Adeiladu i ddangos eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Byddai hyn hefyd yn berthnasol os nad yw’r gwaith sy’n cael ei wneud yn syml, megis trawsnewid llofft.

Lawrlwytho ffurflen gais Rheoliadau Adeiladu.

Unioni

Gallwch ymgeisio am unioni – cymeradwyaeth am waith sydd eisoes wedi’i gwblhau heb ganiatâd.  Dim ond gwaith a wnaethpwyd ar ôl 11 Tachwedd 1985 gellir ei gymeradwyo yn y modd hwn.

Sut mae’n gweithio

  • Gellir defnyddio’r cais ar gyfer unrhyw fath o adeilad ond mae’n berthnasol i unrhyw waith a gwblhawyd heb ganiatâd ar neu ar ôl 11 Tachwedd 1985 yn unig
  • Mae’r gwaith yn cael ei archwilio ar y safle
  • Mewn rhai achosion, efallai bydd angen agor rhannau i gadarnhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau adeiladu a oedd yn berthnasol pan gafodd y gwaith ei wneud yn wreiddiol
  • Unwaith i chi ei gyflwyno, mae’r cais yn ddilys nes i chi gwblhau
  • Cyhoeddir tystysgrif Union ar ôl cwblhau’r gwaith yn foddhaol
  • Rhaid talu un ffi wrth gyflwyno’r cais
  • Nid yw TAW yn daladwy ar gyfer y gwasanaeth hwn

Os hoffech gyngor ar y wybodaeth uchod, cysylltwch â Rheoli Adeiladu:-

Ffôn:          01495 364848
E-bost:     building.control@blaenau-gwent.gov.uk