Sut i brosesu gwaith

Canllaw byr i sut mae’r Broses Rheoli Adeiladu yn gweithio

Os ydych yn bwriadu cynnal gwaith adeiladu, mae gennych dau ddewis ar gyfer cymeradwyo rheoliadau adeiladu: naill ai’r cais am gynlluniau llawn neu’r hysbysiad adeiladu. Mae’r cais union ar gyfer cael cymeradwyaeth ôl-weithredol am waith sydd eisoes wedi’i gwblhau.

Gallwch gyflwyno’r cais am gynlluniau llawn a’r cais am hysbysiad adeiladu ar-lein neu ar bapur gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

Oes angen cymeradwyaeth Rheoli Adeiladu arnaf?

Arolygiadau

Bydd ein syrfëwr yn ymweld â’ch safle yn rheolaidd yn ystod cyfnod y prosiect i wirio’r gwaith a rhoi’r cyfarwyddyd a chefnogaeth angenrheidiol. Yr ymweliad pwysicaf â’r safle bydd pan fyddwch yn cychwyn ar y gwaith. Mae gofyniad statudol i roi gwybod i Reoli Adeiladu dau ddiwrnod cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle. Ar yr adeg yma, bydd eich Swyddog Rheoli Adeiladu yn nodi camau pwysig eraill o’r broses arolygu.

Ar ôl cychwyn, gallai’r arolygiadau pellach gynnwys:-

  • Cloddio ar gyfer Sylfeini
  • Sylfeini concrit
  • Deunydd a osodir ar y safle
  • Gosod cwrs atal lleithder
  • Draenio yn barod ar gyfer archwilio a phrofi
  • Llenwi draeniau yn barod i’w profi
  • Trigo yn yr adeilad
  • Cwblhad terfynol

Gallwch gysylltu â’ch Swyddog Rheoli Adeiladu rhwng y camau statudol uchod os oes angen arolygiad rhwng y camau hyn arnoch.

Pan mae’r gwaith wedi’i gwblhau (cyhyd â’i bod at y safon ofynnol), byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cwblhau. Mae hon yn ddogfen hanfodol os byddwch eisiau gwerthu’r adeilad ar unrhyw adeg.

Mae’r ffioedd ar gyfer cais am gynlluniau llawn a chais am hysbysiad adeiladu yr un fath a gellir defnyddio’r un ffurflen ar gyfer y ddau fath o gais.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk