Cyhoeddodd Llywodraeth y DU 2 gynllun newydd i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Gwneud cais am fisa Cynllun Teulu Wcráin
Diben y cynllun hwn yw helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin i ddod i ymuno ag aelod o'r teulu yn y DU neu ymestyn eu harhosiad yn y DU.
Dysgwch fwy am fisa cynllun teulu Wcráin
Cofrestrwch ar gyfer y Cynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin
Drwy'r cynllun hwn, gallwch helpu rhywun sy'n ffoi o Wcráin drwy eu noddi a'u cynnal yn eich cartref.
Dysgwch fwy am y Cynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin
Ffyrdd eraill o helpu
Os ydych am helpu ond na allwch gynnig llety, gallwch gyfrannu at y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.
Mae'r grŵp hwn o elusennau yn gweithio ar lawr gwlad yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu hanfodion, gan gynnwys bwyd, dŵr, cysgod a chymorth meddygol.
Rhoi rhodd
Ar hyn o bryd nid ydym yn cymryd rhoddion o ddillad na nwyddau eraill.
Diolch i holl drigolion a chymunedau Blaenau Gwent am eu holl haelioni a chefnogaeth.
Gallwch hefyd gael gwybod am nifer o gynlluniau a sefydlwyd i helpu i gefnogi'r rhai yr effeithir arnynt drwy ffonio rhif llinell gymorth y DU ar 0808 175 1508.
Sefydlwyd cronfa y gall grwpiau Cymunedol wneud cais am grant o hyd at £10,000
Cronfa Croeso Cenedl Noddfa - Community Foundation Wales
I gael rhagor o arweiniad a gwybodaeth am gymorth yr Wcráin i bobl yr effeithir arnynt, ewch i:
Wcráin: cefnogaeth i bobl a effeithir | LLYW.CYMRU
Gall busnesau a sefydliadau hefyd yn awr gofrestru cynigion o help a chefnogaeth i bobl o Wcráin sy’n ceisio lloches yng Nghymru drwy wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r ddolen hon ar gyfer busnesau a sefydliadau yn unig i gofrestru eu cynigion cefnogaeth, nid ar gyfer unigolion.
Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig
Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi dadleoli degau o filoedd o Wcreiniaid o'u cartrefi a nodi dechrau'r hyn a allai fod yr argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers degawdau.
Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi lansio apêl codi arian brys mewn ymateb i'r ymladd yn Wcráin.
Y flaenoriaeth nawr yw helpu pobl i gael gafael ar ddŵr glân, gofal iechyd a chymorth seicogymdeithasol.
Mae Cymdeithas y Groes Goch Wcreinaidd a Phwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC) wedi bod yn gweithio law yn llaw â chymunedau yr effeithiwyd arnynt i ymateb i'r anghenion dyngarol enfawr sydd wedi'u hachosi gan bron i wyth mlynedd o wrthdaro.
Byddai rhodd i Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig yn golygu y gellir estyn dwylo i fwy o bobl sydd mewn angen dybryd.
Gallai eich rhodd helpu rhywun i gael:
- bwyd
- dŵr
- cymorth cyntaf
- meddyginiaethau
- dillad cynnes
- lloches
I roi, ewch i wefan argyfwng y Groes Goch.