Cronfa Perchnogaeth Gymunedol

Amlinelliad o’r cyllid:

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn ffurfio rhan o becyn cynlluniau codi’r gwastad a weithredir ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n helpu i gefnogi adferiad, adeiladu cyfle a grymuso cymunedau i wella eu mannau lleol.

P’un ai’r dafarn ar y stryd fawr neu siop pentref sy’n wynebu cael eu cau neu dîm chwaraeon lleol a allai golli ei gae ymarfer – mae hwn yn gyfle i grwpiau ddod yn gyfrifol amdanynt a’u rhedeg fel busnesau gan y gymuned er mwyn y gymuned.

Bydd y gronfa yn sicrhau y gall cymunedau gefnogi a pharhau i fanteisio o asedau cymunedol, amwynderau a chyfleusterau o werth iddynt nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Nod y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yw:
• Darparu buddsoddiad wedi’i dargedu ar gyfer cymunedau i achub asedau cymunedol a fyddai fel arall yn cael eu colli
• Cryfhau capasiti a gallu mewn cymunedau i’w cefnogi i lunio eu lleoedd ac i ddatblygu busnesau cymunedol cynaliadwy
• Grymuso cymunedau mewn lleoedd a adawyd ar ôl i godi’r gwastad
• Cryfhau cysylltiadau uniongyrchol rhwng lleoedd ar draws y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig


Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau fydd yn cyflawni pob un o’r deilliannau dilynol:
• Diogelu ased neu amwynder cymunedol sydd mewn risg a chadw eu gwerth cymunedol
• Datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol hirdymor yr ased gymunedol mewn perchnogaeth gymunedol
• Cynyddu’r defnydd o asedau cymunedol a gwella mynediad i wasanaethau neu amwynderau lleol

Y cyllid sydd ar gael:
Caiff cyfanswm o £150 miliwn ei ledaenu ar draws nifer o gylchoedd cynnig dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2021-2025. Gosodwyd isafswm targed gwariant yn unol â dyraniadau per-capita yng Nghymru (£7.1m) i sicrhau cyfleoedd teg ar gyfer mynediad.

Bydd hyd at £250k o arian cyfatebol i helpu cymunedau i brynu, cymryd drosodd neu adfer asedau cymunedol ffisegol sydd mewn risg o gael eu colli. Mewn achosion eithriadol, bydd hyd at £1m o arian cyfatebol ar gael i helpu sefydlu clwb chwaraeon cymunedol neu helpu i brynu cae chwaraeon a fyddai mewn risg o gael eu colli heb ymyriad gan y gymuned.

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at 50% o gyfanswm costau cyfalaf, gan gyfateb cyllid ac adnoddau eraill a godwyd gan yr ymgeisydd. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi codi cyllid arall i dalu am gyfanswm costau cyfalaf eu prosiect.

Mae grantiau refeniw bach o hyd at £50,000 ar gyfer refeniw dichonolrwydd, datblygu busnes neu ôl-caffael a chyfalaf gwaith hefyd ar gael ar gyfer yr asedau chwaraeon hyn, sy’n cyd-fynd ag elfennau eraill y Gronfa.

Ni fydd angen arian cyfatebol ar gyfer refeniw a gall ymgeiswyr wneud cais am grantiau hyd at uchafswm o  £50,000 (a dim mwy na 20% o gyfanswm costau cyfalaf y gwnaed cais amdano drwy’r Gronfa) cyn belled ag y gallant ddangos sut y bydd y cyllid hwn yn eu cefnogi i gwblhau eu prosiect a datblygu model gweithredu cynaliadwy.

Dyddiad cau cyllid:
Bydd y gronfa ar agor dros bedair blynedd (tan 2024/2025 a bydd nifer o gylchoedd cynnig. Mae’r cylch cynnig cyntaf yn agor ym mis Gorffennaf gyda dyddiad cau o 13 Awst 2021 ar gyfer cynigion. Y blaenoriaethau ar gyfer y cylch cyntaf yw buddsoddi mewn prosiectau sy’n barod i dderbyn cyllid cyfalaf a chwblhau eu prosiectau o fewn 6 mis. Bydd y cylch cyllid hwn yn fwyaf addas ar gyfer grwpiau cymunedol sydd wedi gwneud gwaith rhagarweiniol ac sydd â chynllun busnes hyfyw i gymryd perchnogaeth o’r ased neu amwynder lleol sydd mewn risg.

Bydd yr ail gylch cynnig yn agor ym mis Rhagfyr 2021, gyda chylch cynnig pellach ym mis Mai 2022. Gellir diwygio’r meini prawf fel sydd angen i sicrhau ei fod yn cyflawni’r effaith a fwriedir o fewn cymunedau. Bydd y Gronfa yn rhedeg tan 2024/25 a bydd o leiaf 8 cylch cynnig i gyd.

Mae grantiau refeniw bach o hyd at £250,000 ar gyfer cyfalaf dichonolrwydd, datblygu busnes neu ôl-caffael a chyfalaf gwaith hefyd ar gael ar gyfer yr asedau chwaraeon hyn, yn gydnaws gydag elfennau eraill y Gronfa.

Meini Prawf Cyllid
Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiaeth o gynigion perchnogaeth gymunedol. Er enghraifft, gall prosiectau cynnwys:
• cyfleusterau chwaraeon a hamdden
• sinemâu a theatrau
• safleoedd cerddoriaeth
• amgueddfeydd
• orielau
• parciau
• tafarndai
• adeiladau swyddfa’r post
• siopau

Bydd angen i gynigion brofi gwerth yr ased i bobl leol ac y gellir rhedeg yr ased yn gynaliadwy er budd hirdymor y gymuned.

Ni fydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid i:
• dalu dyledion busnesau neu brynu busnes sydd mewn dyled
• prynu asedau tai
• prosiectau adeiladu newydd i ddatblygu asedau neu amwynderau newydd, heb fod yn gysylltiedig ag arbed neu gadw ased neu amwynder presennol
• refeniw cyffredinol ar gyfer gweithgareddau cymunedol neu ddigwyddiadau heb fod â chysylltiad i gaffael neu drosglwyddo ased neu amwynder cymunedol
• costau prynu asedau sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus

Caiff awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned eu heithrio rhag cynnig ar gyfer y cynllun gan mai diben y gronfa yw cefnogi sefydliadau cymunedol sy’n ceisio dod ag ased sydd mewn risg o gael ei golli i berchnogaeth gymunedol.

Dim ond gan sefydliadau ymgorfforedig a gafodd eu sefydlu i sicrhau diben elusennol, diben cymdeithasol neu fudd cyhoeddus y derbynnir ceisiadau am gyllid.
I fod yn gymwys am fuddsoddiad o’r Gronfa, mae’n rhaid i delerau perchnogaeth gymunedol fod naill i brynu/trosglwyddo’r rhydd-ddaliad neu brydles hirdymor o leiaf 25 mlynedd (heb gymalau torri).

Ni fyddir yn cyllido prosiectau sy’n cynnwys trosglwyddo rhwymedigaethau anghynaladwy (er enghraifft gostau cynnal a chadw neu staffio uchel heb unrhyw gynllun ar sut i ddarparu ar eu cyfer) i sefydliadau cymunedol a rhai a all arwain at ostwng gwasanaethau y mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i’w darparu.

Cyflwyniadau
Bydd y porth ar-lein ar gyfer ceisiadau ar agor ar 30 Gorffennaf 2021. Cyhoeddir templed cais llawn ar gael yn gov.uk. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r templed a dogfennau canllawiau i baratoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer eu cais, cyn eu cyflwyno drwy’r porth ar-lein o 30 Ionawr 2021.