Pridiannau Tir Lleol

Mae ein Cofrestr Pridiant Tir Lleol wedi symud i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Ni fyddwn bellach yn darparu gwasanaeth chwilio Pridiant Tir Lleol, gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth digidol newydd drwy’r Portal, Business Gateway a ar dudalennau Cofrestrfa Tir EM/HM Land Registry ar GOV.UK.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn parhau i roi atebion i ymholiadau CON29 a CON 290.

Mae’n bwysig cofio mai dim ond gydag ymholiad CON29 a CON290 y dylid cyflwyno’r ffi gofynnol o £126.00.

Mae CON29 yn trin materion tebyg i gynlluniau ffordd, hanes cynllunio yr eiddo a materion amgylcheddol.

Mae CON290 yn ffurflen ddewisol sy’n delio gydag ymholiadau ychwanegol a all ymwneud yn benodol â’r tir/eiddo a gaiff ei chwilio.

Mae’r ffioedd ar gyfer Chwiliadau’r Awdurdod Lleol fel sy’n dilyn:-

 

Cyn TAW

TAW

Yn cynnwys TAW

CON29R (un parsel o dir)

£105.00

 

£21.00

 

£126.00

Parsel Ychwanegol o Dir

 

£10.00

 

 

£2.00

£12.00

CON290 Dewisol

Cwestiynau 4 - 21

£5.00

 

£1.00

 

£6.00

CON290 Dewisol

Cwestiwn 22

£10.00

 

£2.00

 

£12.00

 

Mae’n rhaid hefyd gyflwyno cais am Chwiliad Tir Comin i’r Adran Pridiant Tir. Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen CON29 Ymchwiliad Dewisol, gan dicio Ymholiad Rhif 22. Y ffi ar gyfer hyn yw £12.00 (yn cynnwys TAW).

Rhaid anfon pob ffurflen cais am chwilio drwy e-bost i land.charges@blaenau-gwent.gov.uk  Byddem hefyd yn eich atgoffa mai dim ond gyda’r ffi cywir, taladwy drwy BACS, copi o CON29 / CON29O a chynllun lleoliad safle y caiff Chwiliadau Awdurdod Lleol eu derbyn., Anelwn ddychwelyd canlyniadau chwilio o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ni fyddwn yn cynnal chwiliad os na chaiff cynllun lleoliad safle ei amgáu.

Manylion talu BACS

MANYLION BANC:    

BANC BARCLAYS PLC 
BLWC SP 674
3YDD LLAWR WINDSOR COURT
3 WINDSOR PLACE
CAERDYDD CF10 3ZL

ENW’R CYFRIF:  CYNGOR BWRDEISTREF SIROL BLAENAU GWENT

COD DIDOLI:  20-56-64

RHIF CYFRIF:  60363324

SWIFTBIC:   BARCGB22

Gwybodaeth Cyswllt

Adran Pridiant Tir

Rhif Ffôn: 1495 355086
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: land.charges@blaenau-gwent.gov.uk