Gorfodi Parcio Sifil (GPS)
Yn Chwefror 2017, cadarnhaodd Heddlu Gwent yn ysgrifenedig i bob un o 5 Awdurdod Lleol Gwent eu bod yn bwriadu “tynnu ei swyddogion a'i staff o weithgareddau sy'n cynnwysgorfodi cyfyngiadau parcio.”
Gwent yw'r unig ardal yng Nghymru lle nad yw'r awdurdodau lleol wedi cymryd meddiant ar y pwerau hyn. Mae hyn yn golygu trosglwyddo pwerau o'r heddlu at yr awdurdodau lleol.
O ganlyniad, mae Cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen oll yn y broses o ymgymryd â Gorfodi Parcio Sifil (GPS).
Mae'r manteision o gyflwyno GPS ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent yn cynnwys rheolaeth dros ble, pryd a sut mae parcio yn y fwrdeistref sirol yn cael ei reoli, gan alluogi darparu gwasanaethau mwy hyblyg lle bo angen, gwella cydymffurfiad â chyfyngiadau parcio a lleihau tagfeydd.
Diolch i chi am gysylltu â Thîm Gorfodaeth Parcio Sifil Blaenau Gwent. Gofynnir i chi nodi mai’r amser ymateb mwyaf yw 28 diwrnod gwaith, ond byddwn yn anelu i ymateb ynghynt.
Gofynnir i chi nodi hefyd y bydd angen i chi gysylltu â Grŵp Parcio De Cymru am unrhyw ymholiadau am Hysbysiad Tâl Cosb a gawsoch gan ddefnyddio’r opsiynau dilynol:
Ar-lein: www. swpg.co.uk
Post: SWPG, Blwch SP 112, Pontypridd, CF39 7EL
Ffôn: 03333 200867
*Gwiriwch eich ffolderi sbam/sbwriel rhag ofn fod ymateb wedi mynd yno drwy gamgymeriad.
Cerbydau a gafodd eu gadael:
Dylid hysbysu Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor am gerbydau a gafodd eu gadael. Anfonwch e-bost at EnvironmentalHealthMailbox@blaenau-gwent.gov.uk gyda manylion y cerbyd, yn cynnwys y gwneuthuriad, model, lliw a lleoliad (stryd a thref).
Cerbydau heb eu trethu:
Y DVLA sydd yng ngofal cerbydau heb eu trethu. Os dymunwch roi adroddiad fod cerbyd heb ei drethu ewch i http://forms.dft.gov.uk/report-an-untaxed-vehicle . Mae manylion pellach ar wefan www.gov.uk .