Ffioedd a Thaliadau

Ffioedd

Os oes angen dyfynbris ffi arnoch ar gyfer gwaith Rheoliadau Adeiladu, cysylltwch â’r swyddfa Rheoliadau Adeiladu.

Mae ffioedd Rheoli Adeiladu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi newid ers Ebrill y 1af 2015.

Mae’r trefniadau ffioedd newydd ar gael trwy gysylltu â rheoli adeiladu

Os hoffech weld y trefniadau ffioedd newydd neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar 01495 364848.

Taliadau

Rydym yn derbyn arian parod, sieciau, taliadau ffôn, trosglwyddiadau BACS a thaliadau rhyngrwyd.

Dylid gwneud sieciau’n daladwy i 'Cyngor Bwreistref Sirol Blaenau Gwent'

I wneud taliad ffôn, dylech wirio’n gyntaf faint fydd eich ffi trwy ymgynghori â’r tîm Rheolaeth Adeiladu ar 01495 364848. Yna, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556. Dwedwch wrth y teleffonydd eich bod am wneud taliad Rheoliadau Adeiladu gan nodi llinell gyntaf lleoliad y gweithiau fel cyfeirnod.

I wneud taliad rhyngrwyd, dylech wirio’n gyntaf faint fydd eich ffi trwy ymgynghori â’r tîm Rheolaeth Adeiladu ar 01495 364848. Yna, ewch i sgrin gartref y wefan. Cliciwch ar “gwneud taliad” ac yna cliciwch ar “taliadau amrywiol” ac yna dewiswch “Rheoleth Adeiladu”.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Building.control@blaenau-gwent.gov.uk