Gorfodaeth

Os ydych yn gwneud gwaith nad sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau, efallai byddwn yn cyflwyno hysbysiad yn eich gorfodi i dynnu’r gwaith i lawr, cael gwared arno neu ei addasu o fewn 28 niwrnod.
  
Gallwch hefyd gael eich dirwyo am dorri’r rheoliadau adeiladu. Os ydych yn methu â rhoi rhybudd i’r cyngor ar gamau amrywiol y gwaith adeiladu, gallwn gyflwyno hysbysiad yn eich gorfodi i dorri i mewn, agor i fyny neu dynnu iawn cymaint o’r gwaith ag sydd angen er mwyn gwirio a ydych wedi cydymffurfio; ac yna gallwn eich gorfodi i addasu neu gael gwared ar y gwaith nad oedd yn cydymffurfio.
   
Efallai y byddwch hefyd yn cael anhawster yn ailwerthu’r adeilad os oes gwaith adeiladu wedi cael ei wneud heb sicrhau’r gymeradwyaeth angenrheidiol yn unol â rheoliadau adeiladu.

Am ragor o wybodaeth ar orfodi Rheoliadau Adeiladu ewch i’r planning portal.

neu cysylltwch â Rheoli Adeiladu:

Ffôn: 01495 364848
E-bost: building.control@blaenau-gwent.gov.uk

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk