Eithriadau rhag Reoliadau Adeiladu

Mae rhai adeiladau sydd wedi’u heithrio rhag rheoliadau adeiladu. Gall y rhain gynnwys ystafelloedd gwydr, portshys, garejis domestig, adeiladau bach ar eu pennau eu hunain.

Cofiwch, er bod adeiladau wedi’u heithrio o ran rheoli adeiladu, efallai bydd rhaid cydymffurfio gyda materion eraill megis cynllunio. 

Os ydych yn ansicr am hwn neu unrhyw agwedd arall o adeiladau wedi’u heithrio,  cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar 01495 355521 neu e-bostiwch: building.control@blaenau-gwent.gov.uk

Ystafelloedd Gwydr

I fod yn eithriedig rhaid i’ch ystafell wydr fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig.
  • Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
  • Mae gan ystafell wydr dim llai na tri chwarter o ardal ei do a dim llai na hanner o ardal ei waliau allanol wedi’u gwneud o ddeunydd tryloyw.
  • Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu).
  • Rhaid cadw’r drysau a/neu ffenestri allanol presennol.
  • Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.
  • Rhaid i’r system wres fod ar wahân a ddim wedi’u hymestyn o’r prif dŷ a chael ei system reoli ei hun.

Portshys

I fod yn eithriedig rhaid i estyniad eich portsh fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig
  • Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr.
  • Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu)
  • Rhaid cadw’r drysau a/neu ffenestri allanol presennol.
  • Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.
  • Rhaid i’r system wres fod ar wahân a ddim wedi’u hymestyn o’r prif dŷ a chael ei system reoli ei hun.

Cysgodfeydd Ceir

I fod yn eithriedig rhaid i’ch cysgodfa ceir fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig.
  • Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid i’r gysgodfa ceir fod ar agor ar o leiaf dwy ochr

Garejis/ adeiladau bach ar eu pennau eu hunain

I fod yn eithriedig rhaid i’ch garej fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddi fod ar wahân
  • Rhaid iddi fod ar un llawr
  • Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu)
  • Mwy nag 1 metr o’r ffin neu ddim yn llosgadwy o gwbl

Am unrhyw wasanaethau e.e. trydan/ draenio, rhaid cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk