Beth yw Rheoliadau Adeiladu?

Set o safonau isafswm ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau i sicrhau iechyd, diogelwch a lles y bobl sy’n defnyddio ac sydd o amgylch yr adeiladau hynny yw Rheoliadau Adeiladu. Maen nhw hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau bod tanwydd ac ynni yn cael eu harbed a bod cyfleusterau yn cael eu darparu ar gyfer pobl anabl. Cyn i chi ddechrau unrhyw waith adeiladu mae angen i chi wirio os oes angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu arnoch – gall eich adeiladwr wneud hyn i chi ond fel perchennog adeilad, mae’n bosib mai chi fydd â’r cyfrifoldeb.

Ydy cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu yr un fath â chaniatâd cynllunio?

Nac ydynt. Mae’r rhain yn gwbl ar wahân.  Mae’n bosib bydd angen Caniatâd Cynllunio hyd yn oed pan nad yw Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol, oherwydd mae’n bosib bod y cais am strwythur eithriedig. Yn debyg, mae’n bod bydd angen Rheoliadau Adeiladu pan nad oes angen Caniatâd Cynllunio.

Gellir dod o hyd i wybodaeth fwy manwl ar Wefan Planning Portal

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw agwedd o Reoliadau Adeiladu, cysylltwch â ni:

Ffôn:     01495 355521
E-bost: building.control@blaenau-gwent.gov.uk

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 355529
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk