Bydd y rownd Eilaidd yn mynd yn fyw ar 19eg Medi 2025.
Cofiwch gwblhau cais yma.
Dyddiadau Derbyn 2026
Bydd ceisiadau ar-lein yn mynd yn fyw ddydd Gwener, 19eg o Fedi 2025 (9am)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, 31ain o Hydref 2025 (5pm)
Dyddiad penderfynu – Dydd Llun, 2il o Fawrth 2026*
Mae plant yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar ddechrau’r flwyddyn ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed (h.y. os yw’ch plentyn yn 11 oed rhwng 1 Medi 2025 a 31 Awst 2026, byddai ganddo hawl i le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2026).
Tra gwneir pob ymdrech i dderbyn disgyblion, rhaid gwneud cais i fynychu ysgol uwchradd ar yr amser priodol.
Mae gennych gyfrifoldeb, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg amser llawn priodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2026/27.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn neu i ofyn am gopi o’r llyfryn cychwyn yn yr ysgol, anfonwch neges e-bost at: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk
Darpariaeth uwchradd bwydo cyfrwng Cymraeg Blaenau Gwent yw Ysgol Gymraeg Gwynllyw, wrth wneud cais, gwnewch hynny drwy:
Deietau Arbennig
I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.
Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.
Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.
Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd
Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.
Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.
Dogfennau Cysylltiedig
- Hysbysiad Preifatrwydd
- Polisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2026/27
- Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg
Manylion Cyswllt
Derbyniadau i Ysgolion
Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN