Beth sy’n digwydd os yw’ch plentyn yn cael gwrthod lle?
Yn y mwyafrif o achosion mae plant yn cael cynnig lle yn yr ysgol o’u dewis cyntaf. Os nad yw’ch plentyn yn cael eu derbyn yn y dewis cyntaf, bydd angen i chi benderfynu a ydych yn fodlon derbyn lle a gynigir mewn ysgol wahanol, neu a ydych eisiau apelio’r penderfyniad mewn Panel Apêl Annibynnol. Bydd y panel hwn yn penderfynu a yw’r ysgol yn llawn ac, os mai dyna’r sefyllfa, a yw cais y rhieni’n ddigon cryf y dylid cynnig lle i’r plentyn.
Sut i apelio
Gallwch wneud apêl ffurfiol yn erbyn y penderfyniad, a rhaid derbyn hon o fewn 28 niwrnod calendr ar ôl i chi dderbyn hysbysiad o’r penderfyniad i beidio â derbyn eich plentyn yn yr ysgol o’ch dewis. Bydd yr apêl yn cael ei chlywed gan Banel Apêl Annibynnol a fydd yn gosod amser a lle ar gyfer y gwrandawiad. Bydd y panel yn rhoi cyfle i rieni ymddangos a chyflwyno’u hachos (ar lafar a/neu’n ysgrifenedig). Cynghorir rhieni bod asiantaethau megis SNAP ac ACE ar gael i ddarparu cyngor ar gyflwyno apeliadau.
Cynghorir rhieni:
- Eu bod yn gallu dewis peidio â mynychu’r cyfarfod apêl ac, yn hytrach, caniatáu i’r apêl gael ei hystyried yn seiliedig ar ddatganiad ysgrifenedig.
- Bydd yr apêl yn cael ei phenderfynu yn seiliedig ar y wybodaeth ar gael os, ar ôl methu rhoi esboniad rhesymol, nid ydynt yn ymddangos.
- Byddant yn cael o leiaf 14 diwrnod (o’r diwrnod postio) o rybudd ysgrifenedig o gyfarfod y Panel Apêl
- Mae croeso iddynt ddod gyda ffrind, neu gael cynrychiolaeth cyfreithiwr, fodd bynnag, yn yr ail achos, dylid rhoi gwybod i Ysgol Sefydledig Brynmawr o leiaf saith niwrnod cyn y gwrandawiad.
Dogfennau Cysylltiedig
- Hysbysiad Preifatrwydd - Trawsnewid Addysg
- Polisi Derbyn Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin ac Addysg Statudol 2024/25.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg, Derbyniadau Ysgolion
Rhif Ffôn: (01495) 355493/ (01495) 355340
Gofynnir i chi nodi y bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 canol-dydd bob dydd. Os oes angen i chi siarad gyda rhywun tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at gyfeiriad e-bost derbyn ysgolion isod i ofyn i ni eich ffonio’n ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Cyfeiriad: Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Anvil, Abertyleri, NP13 1DB
Cyfeiriad e-bost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk