Mynd i'r Meithrin 2027
Os ganwyd eich plentyn rhwng 1af Medi 2023 a 31ain Awst 2024 gallwch wneud cais am le mewn ysgol feithrin 2027 rhwng 7fed Medi 2026 a 16eg Hydref 2026.
I wneud cais am le mewn ysgol feithrin ar gyfer lleoliadau 2027, cwblhewch y Ffurflen Gais – Ysgol Feithrin 2027.
Bydd unrhyw ffurflenni cais hwyr a dderbynnir yn cael eu hystyried yn fisol yn unol â'r Polisi Derbyn.
Noder: Ni fyddwn yn derbyn cais am le mewn ysgol feithrin heb brawf o'ch dyddiad geni.
Gellir gweld dyddiadau pwysig i chi fel rhiant eu nodi yma: Poster Dyddiadau Pwysig 2027
Mae gan bob plentyn sy'n byw ym Mlaenau Gwent hawl i le addysg rhan-amser am ddim ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed (e.e. os yw'ch plentyn yn 3 oed ar 16eg Rhagfyr 2026, byddent yn gymwys i gael lle mewn ysgol feithrin o fis Ionawr 2027). Cyfeirir at hyn yn gyffredin fel lle 'Plant sy’n codi'n 3 oed'. Fel arfer, derbynnir plant i leoliadau meithrin ar sail rhan-amser/hanner diwrnod am bum niwrnod yr wythnos.
- Os yw eich plentyn yn 3 oed rhwng 1 Medi 2026 a 31 Rhagfyr 2026, bydd yn gymwys i gael lle yn y dosbarth Plant sy’n codi’n 3 oed yn nhymor y gwanwyn, Ionawr 2027.
- Os yw eich plentyn yn 3 oed rhwng 1 Ionawr 2027 a 4 Ebrill 2027, bydd yn gymwys i gael lle Plant sy’n codi’n 3 oed yn nhymor yr haf, Ebrill 2027.
- Os yw eich plentyn yn 3 oed rhwng 5 Ebrill 2027 a 31 Awst 2027, bydd yn gymwys i gael lle Plant sy’n codi’n 3 oed yn nhymor yr hydref, Medi 2027
Os ydych chi am i'ch plentyn fynychu lleoliad meithrin yn unrhyw un o'r ysgolion a amlinellir yn y 'Llyfryn Dechrau’r Ysgol', bydd angen i chi wneud cais am le meithrin cyn y dyddiad cau sef 16eg Hydref 2026.
Mae angen gwneud ceisiadau i fanteisio ar yr hawl i leoedd meithrin y cyfnod sylfaen mewn lleoliadau gofal plant nas cynhelir (Gofal Dydd Tiggys, Cylch Chwarae Acorns, Cylch Meithrin Brynithel) yn uniongyrchol i’r lleoliad gofynnol. Mae’r Llyfryn Cychwyn yn yr Ysgol yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y lleoliadau hyn.
Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, yr awdurdod derbyn (Cyngor Blaenau Gwent) sy’n gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Bydd y disgyblion hyn wedyn yn cael lle ar gampws Blaenau neu Dredegar gan dîm arweinyddiaeth a chorff llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.
Newyddion: Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg bellach wedi agor ei hegin-ddarpariaeth, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn ei lleoliad dros dro yn Nhŷ Bedwellte, Stryd Morgan, Tredegar, ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26, bydd Ysgol Gymraeg Tredegar yn cael ei lleoli yn ei hadeilad ysgol newydd ar Ffordd y Siartwyr, Sirhywi, Tredegar.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion, cyfeiriwch at Bolisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2027/28.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses dderbyn neu i ofyn am gopi o’r Llyfryn Cychwyn yn yr Ysgol, anfonwch neges e-bost at: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk
Deietau Arbennig
I wneud cais am ddeiet arbennig, llenwch y ffurflen gais am ddeiet arbennig a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.
Unwaith y bydd yr Adran Arlwyo a deietegydd wedi derbyn y ffurflen, byddwch naill ai’n derbyn bwydlen deiet arbennig ar gyfer eich plentyn drwy’r post/e-bost neu byddant yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen atoch. Caniatewch hyd at dair wythnos i’ch bwydlen gyrraedd.
Er mwyn diogelu iechyd eich plentyn, mae’r Adran Arlwyo yn gofyn i chi ddarparu pecyn cinio i’ch plentyn o’ch cartref hyd nes y byddwch wedi derbyn dyddiad cychwyn wedi’i gadarnhau.
Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant yn yr Ysgol Gynradd
Mae gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ymrwymiad hwn mewn ymateb i’r pwysau cynyddol o ran costau byw ar deuluoedd a’n huchelgeisiau cyffredin o fynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn yr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r cynllun ar waith cyn gynted â phosibl. Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta’n iach ar draws yr ysgol, cynyddu’r amrywiaeth o fwyd y gall dysgwyr ei bwyta, gwella sgiliau cymdeithasol amser bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn gweld prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i bob disgybl ysgol gynradd dros y tair blynedd nesaf.
Nid oes angen cofrestru: wrth gofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol, bydd ond angen i’ch plentyn nodi a oes angen pryd ysgol arno. Hefyd, os oes gan eich plentyn alergedd neu anoddefiad, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais am ddeiet arbennig.
Dogfennau Cysylltiedig
- Hysbysiad Preifatrwydd
- Polisi Derbyn i Ysgolion Blaenau Gwent ar gyfer Addysg Feithrin a Statudol 2027/28
- Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg#
- Llyfryn Gwybodaeth i Rieni / Gofalwyr am Ysgolion Gwneud cais am Le Ysgol ar gyfer 2027 / 2028
Manylion Cyswllt
Rhif ffôn: (01495) 369502 / (01495) 369524. Sylwch, bydd aelod o’r tîm ar gael i ateb unrhyw alwadau rhwng 9am a 12 hanner dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen i chi siarad â rhywun y tu allan i’r oriau hyn, anfonwch e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk i ofyn am alwad yn ôl a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6DN