Ysgolion a Thimau’r Cyngor yn Gweithio gyda'i Gilydd i Gefnogi Adferiad Natur

Mae ysgolion Blaenau Gwent yn gweithio gyda Chynnal a Chadw Tiroedd a'r Tîm Bioamrywiaeth i greu mwy o fannau sy'n dda i fywyd gwyllt ledled y sir.

Ymateb i'r Argyfwng Natur

Yn dilyn datgan Argyfwng Natur yn 2024, mae'r cyngor wedi adolygu sut mae glaswelltir yn cael ei reoli i helpu i wella bioamrywiaeth a chryfhau ecosystemau lleol. Mae hyn wedi cynnwys newidiadau i raglenni torri glaswellt a nodi ardaloedd mewn parciau, mannau agored a thiroedd ysgol y gellir eu rheoli ar gyfer bywyd gwyllt.

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd: "Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall newidiadau bach yn y ffordd rydym yn rheoli ein tir wneud gwahaniaeth go iawn i natur, dysgu a lles. Trwy weithio gydag ysgolion, mae ein tîm Cynnal a Chadw Tiroedd a'r Tîm Bioamrywiaeth yn helpu i greu mannau lle gall bywyd gwyllt ffynnu, a gall pobl ifanc weld adferiad natur yn digwydd yn eu cymunedau eu hunain."

Rôl Ysgolion

Mae ysgolion yn chwarae rôl ganolog yn y dull hwn. Ar draws y sir, mae tiroedd ysgol yn cael eu defnyddio fwyfwy fel hafanau bywyd gwyllt a cherrig camu ecolegol, gan helpu i gysylltu cynefinoedd o fewn yr amgylchedd naturiol ehangach.

Trwy'r prosiect cydweithredol, anogir ysgolion i nodi ardaloedd y gellir eu gadael i natur, gyda chefnogaeth y Swyddog Bioamrywiaeth. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu yn yr awyr agored, deall cynefinoedd lleol a gweld sut y gall gweithredu ymarferol gefnogi adferiad natur.

Manteision ar gyfer Bywyd Gwyllt a Lles

Mae ymgyrchoedd cenedlaethol fel 'Mai Dim Torri' a 'Mehefin o Flodau' Plantlife yn codi ymwybyddiaeth, ond mae'r gwaith hwn yn hyrwyddo dull mwy cyfannol – sydd ar waith drwy gydol y flwyddyn – o reoli tir er budd natur.

  • Mae ardaloedd o laswellt hirach a blodau gwyllt yn cynnig bwyd a lloches hanfodol i greaduriaid di-asgwrn-cefn a bywyd gwyllt arall.
  • Mae mannau sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt yn creu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio, arsylwi a dysgu'n uniongyrchol o natur.
  • Mae llwybrau hygyrch yn caniatáu i gymunedau ysgol fwynhau'r ardaloedd hyn yn ddiogel.
  • Gall treulio amser ym myd natur gefnogi lles trwy annog pobl i gysylltu â'r amgylchedd o'u cwmpas.

Ysgol Gynradd Glyncoed: Enghraifft Ymarferol

Mae Ysgol Gynradd Glyncoed yng Nglynebwy yn enghraifft gref o'r dull gweithredu hwn ar waith. Gan weithio gyda'r timau Cynnal a Chadw Tiroedd a Bioamrywiaeth, mae'r ysgol wedi creu ardaloedd bioamrywiaeth tra'n cynnal llwybrau hygyrch, gan ganiatáu i ddisgyblion ymgysylltu'n ddiogel â natur fel rhan o'u dysgu.

Mae'r dull gweithredu cytbwys hwn yn helpu i fodloni anghenion cymuned yr ysgol wrth gefnogi bywyd gwyllt. Drwy weithio gyda'i gilydd, mae ysgolion Blaenau Gwent yn cyfrannu at yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur, gan helpu i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a chefnogi adferiad natur.

Dywedodd Mrs Joanne Weightman, Pennaeth, Ysgol Gynradd Glyncoed: “Yn Ysgol Gynradd Glyncoed, rydyn ni’n credu’n gryf fod plant yn dysgu orau pan maen nhw’n ymgysylltu’n weithredol â natur. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Ffion Lewis am ei hymrwymiad i ddatblygu partneriaethau mor effeithiol gyda Becky Ward a Cadwch Gymru'n Daclus. Trwy’r gwaith cydweithredol yma, mae ein dysgwyr nid yn unig yn dysgu am adferiad natur ond yn chwarae rhan weithredol ynddo. Mae'r ardaloedd bioamrywiaeth ar draws ein tiroedd ysgol yn cynnig cyfleoedd cyfoethog ar gyfer archwilio, darganfod a stiwardio, gan ganiatáu i blant weld effaith gadarnhaol eu hymdrechion gyda’u llygaid eu hunain. Maen nhw nawr yn gweld eu gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth, gan weld bywyd gwyllt yn ffynnu, cynefinoedd yn blodeuo, ac ennill ymdeimlad gwirioneddol o falchder o helpu i lunio dyfodol mwy cynaliadwy i'w cymuned a'u sir.”