Blaenau Gwent yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

Mae Blaenau Gwent yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026, gyda chymunedau lleol, ysgolion a busnesau yn cael eu cydnabod am eu gwaith i wneud cymdogaethau'n fwy disglair ac i ofalu am fannau gwyrdd. Roedd Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd a phentref Six Bells ymhlith y rhai a dderbyniodd wobrau Aur, tra enillodd Rhandiroedd Bishop Street ac Eglwys San Michael yn Abertyleri wobr Aur yn eu categorïau priodol.

Er bod garddwyr yn aml yn myfyrio ar dymor o law neu dywydd oer, cyflwynodd 2026 her wahanol iawn. Yn ystod un o'r hafau poethaf a sychaf a gofnodwyd erioed, treuliodd gwirfoddolwyr lawer o'r tymor yn dyfrio ac yn gofalu am arddangosfeydd, gan sicrhau bod planhigion a mannau gwyrdd yn parhau i ffynnu. Gwobrwywyd eu hymroddiad gyda digonedd o arddangosfeydd blodau lliwgar, prosiectau amgylcheddol a mentrau cymunedol a wnaeth argraff ar y beirniaid ledled Cymru.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo Cymru yn ei Blodau 2026 yn Neuadd y Dref, Talgarth.

Canmolodd Peter Barton Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau, ymdrechion y rhai a gymerodd ran ar draws Cymru. Dywedodd: "Rydym wrth ein bodd yn gweld twf parhaus, nid yn unig yn ein prif ymgyrch Cymru yn ei Blodau, ond hefyd yn y fenter 'It's Your Neighbourhood' yr RHS."

Llwyddiant cynyddol i ‘It's Your Neighbourhood’

Mae menter 'It's Your Neighbourhood' yr RHS yn parhau i gynnig llwybr gwerthfawr i ymgyrch Cymru yn ei Blodau, gan annog cymunedau o bob maint i wella a gofalu am eu hamgylcheddau lleol.

Canlyniadau `It’s Your Neighbourhood’ Blaenau Gwent

Rhagorol:
Gardd Gymunedol Coetiroedd Sirhowy Hill, Tredegar

Coetiroedd Sirhowy Hill, Tredegar

Parc Abertyleri

Pentref Tyleri, Abertyleri

The Vicarage, Abertyleri                              

Yn Ffynnu:

Cymdeithas Cyfeillion Parc Bedwellte, Tredegar

Parc Six Bells, Abertyleri

Gwirfoddolwyr Gardd Gegin Tŷ Bedwellte, Tredegar

Gwirfoddolwyr Tiroedd Tŷ Bedwellte, Tredegar

Canolfan Gymunedol Aber-bîg, Abertyleri

Grŵp Cymunedol Ebwy Fach, Abertyleri

Gardd Steve Brooks, Abertyleri

Fferm Hafod y Dafal, Glynebwy

Gardd Ralph Henderson, Abertyleri

Rhandiroedd Cymunedol South End, Tredegar

Yn Symud Ymlaen:

Eglwys Bedyddwyr Blaenau Gwent, Abertyleri

Grannies Wood, Llanhiledd

Cardiff Ponds, Glynebwy                                            

Gwobrau’r Brif Gystadleuaeth ar gyfer Blaenau Gwent  

Categori Trefi

Enillodd Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd y Wobr Aur.

Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Lucy Harmer: “Mae wedi bod yn bleser pur i mi fod yn rhan o’r prosiect gwych hwn. Mae wedi dod â llawer o’n grwpiau cymunedol, sydd eisoes yn ffynnu, at ei gilydd ac wedi eu cysylltu â’i gilydd gyda diben cyffredin. Mae’r cyngor cymuned yn falch o hyrwyddo a chefnogi’r prosiect hwn. Mae ein llwyddiant yn y gystadleuaeth eleni yn dyst i ymroddiad a gwaith caled pawb a fu’n rhan ohoni, ac mae hynny’n amlwg yn y canlyniad gwirioneddol haeddiannol.

“Mae llawer o safleoedd yn Abertyleri a’r cyffiniau wedi’u gwella, gan roi hwb mawr ei angen i’n cymunedau a helpu i feithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn y gwaith ar gyfer y prosiect y flwyddyn nesaf. Cadwch lygad am fanylion ynghylch ein lansiad swyddogol ym mis Ionawr. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd yno.”

Arddangosfa Blaen Gwesty

Yn y categori hwn, enillodd The Six Bells Hotel, Abertyleri, wobr 'Silver Gilt', a chafodd Tŷ Ebwy Fach / Clos Cwtch wobr Arian.

Adeiladau Cyhoeddus

Yn y gystadleuaeth dynn hon, enillodd Sefydliad Llanhiledd wobr Aur, a chafodd Eglwys St. Michael, Abertyleri, wobr Aur hefyd.

Dywedodd Eglwys St. Michael: “Mae ein gardd a’n meithrinfa goed yn helpu gwirfoddolwyr i ddysgu am arddwriaeth, natur, a chrefftau traddodiadol. Rydym yn tyfu bwyd ar gyfer banciau bwyd lleol, ond yn bwysicaf oll, rydym yn gwneud ffrindiau, ac mae hynny’n fuddiol iawn i’n llesiant corfforol a meddyliol.”

Rhandiroedd

Yn y categori Rhandiroedd (10 Plot neu Lai) enillodd, Rhandiroedd Bishop Street, Abertyleri, wobr Aur a sicrhau'r safle cyntaf.

Categori Ysgolion

Mae Categori Ysgolion Cymru yn ei Blodau yn cydnabod cyflawniadau ar bum lefel: Dechrau, Tyfu, Ehangu, Blodeuo, Blodeuo’n llawn.

Dyfarnwyd y lefel uchaf, Blodeuo’n Llawn, i Gampws Cynradd Six Bells, tra cyflawnodd Cymuned Ddysgu Abertyleri yn ei chyfanrwydd Lefel 4 – Blodeuo.

Dywedodd Tracey Jarvis, Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Abertillery Aspiration ar gyfer cystadleuaeth drefol Cymru yn ei Blodau yn Abertyleri. Yn y cyfnod yn arwain at y broses beirniadu yn yr haf, gweithiodd disgyblion a staff ar draws y pedwar campws yn galed – yn chwynnu, yn cloddio ac yn plannu – er mwyn sicrhau bod y tiroedd yn edrych ar eu gorau.”

“Mynychodd ein gofalwr ar gampws Six Bells, Lyndon Evans, y seremoni wobrwyo yn Nhalgarth, Powys. Roeddem wrth ein boddau o ennill Gwobr Lefel 5 Cymru yn ei Blodau ar gyfer y campws, a hefyd o gael dathlu Lyndon, a dderbyniodd y ‘Wobr Hyrwyddwr’ fawreddog, fel cydnabyddiaeth o’r amser ychwanegol a’r ymroddiad a roddodd yn wirfoddol i’r fenter.”

Hyrwyddwyr Cymunedol a Gwobrau Arbennig

Mae Cymru yn ei Blodau yn falch o gydnabod yr unigolion a'r grwpiau hynny sy'n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i greu gwahaniaeth parhaol yn eu cymunedau ac i'r mentrau lleol sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Dyfarnwyd Tystysgrifau Hyrwyddwr Cymunedol eleni i:

Lyndon Evans - Campws Cynradd Six Bells. Dywedodd Lyndon: “Mae’n braf iawn cael cydnabyddiaeth, ond fy ngwobr i yw dysgu am flodau, gweithio yn y gymuned a gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud.”

Gwobr Norman Stewart

Uchafbwynt y seremoni oedd cyflwyno Gwobr fawreddog Norman Stewart, a ddyfernir yn flynyddol i unigolyn neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i Cymru yn ei Blodau ac i’w cymuned leol.

Cyflwynwyd gwobr eleni i Ralph Henderson MBE a Grŵp Abertillery Aspiration

Dywedodd aelodau Abertillery Aspiration: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon ar ran ein cymuned gyfan."

Roedd deiliaid rhandiroedd Bishop Street wrth eu bodd yn derbyn y wobr Aur, ac wedi’u cyffwrdd yn fawr pan ddyfarnwyd iddynt wobr enillydd y categori yn Cymru yn ei Blodau.

Categori Pentrefi Mawr

Yn y categori hwn, enillodd Pentref Six Bells y wobr Aur.

Dywedodd y beirniaid: ‘Mae bob amser yn bleser beirniadu’r categori hwn a gweld y gwaith caled a’r ymrwymiad sy’n digwydd trwy gydol y flwyddyn.’

Dywedodd y Cynghorydd Jules Gardner, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor Blaenau Gwent:

"Mae hyn yn hollol wych i Flaenau Gwent! Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu gwaith caled, ac i bawb yn ein cymunedau sy’n rhoi o’u hamser i ofalu am yr ardaloedd lle maent yn byw, gan ddod â balchder i’n bwrdeistref sirol hyfryd."