Llongyfarchiadau i holl enillwyr Blaenau Gwent yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent.
Mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy, gan gynnig cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf.
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd Cyngor Blaenau Gwent:
“Roedd hi’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent eto eleni. Rydym mor falch o’r holl enillwyr a phawb a gymerodd ran – mae eich ymroddiad a’r effaith rydych yn ei chael ar ein cymuned fusnes leol yn rhywbeth i’w ddathlu bob dydd. Da iawn chi!”
Ymhlith yr enillwyr o Flaenau Gwent roedd:
- Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn - Afrosheep Animations
- Sefydliad Trydydd Sector y Flwyddyn - Kidz R Us
- Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn - JC Moulding
- Menter Fach a Chanolig ei maint (SME) y Flwyddyn - B Sidoli & Sons
- Entrepreneur y Flwyddyn - Louise Lattuca, Lattuca Invest
