Mae llwybr Teithio Llesol poblogaidd yng Nglynebwy wedi'i ymestyn diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth Cyngor Blaenau Gwent gais am gyllid o £500,000 o'r Gronfa Teithio Llesol i ymestyn y llwybr yng Nglyncoed ar gyfer pobl sy’n cerdded, yn olwyno ac yn beicio ar deithiau bob dydd. Mae pwynt mynediad mwy hygyrch i'r llwybr wedi'i gynnwys yn y pen deheuol, mae palmentydd wedi'u lledu ac mae meinciau newydd hefyd wedi'u gosod ar y llwybr.
Gwnaed y gwaith gan Nigel Sullivan Groundworks Ltd.
Ymgysylltodd y Cyngor â'r gymuned leol ynghylch y cynlluniau gan gynnwys disgyblion yn yr ysgol gynradd leol, trigolion sy'n byw gerllaw ac arolygon ar y safle gyda phobl sy'n defnyddio'r llwybr – i gyd i ddarganfod sut y gellid gwella'r ardal ac unrhyw rwystrau i deithio gan ddefnyddio'r dulliau hyn.
Bydd arolwg dilynol hefyd yn casglu adborth ar estyniad y llwybr wedi'i gwblhau a'i fanteision i'r gymuned leol.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:
“Mae ein synwyryddion symudiadau yn dangos, ar gyfartaledd, bod dros 100,000 o deithiau'n cael eu cofnodi bob blwyddyn ar y llwybr poblogaidd hwn, felly rydym wrth ein bodd yn gallu gwneud gwelliannau pellach a fydd, gobeithio, yn gweld hyn yn cynyddu ymhellach, yn enwedig gyda'r gwaith i wella hygyrchedd.
“Mae teithio llesol yn ymwneud â mwy na dim ond cyrraedd rhywle, mae'n ymwneud â newid sut mae pobl yn symud bob dydd ac mae'n ymwneud â gwneud teithiau iachach a mwy cynaliadwy yn haws a chefnogi cymunedau gyda llesiant corfforol a meddyliol. Mae buddsoddi mewn teithio llesol yn un o'r buddsoddiadau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud i wella bywyd bob dydd a rhoi dewis go iawn i bobl o ran sut maen nhw'n teithio o gwmpas.
“Rydym newydd gwblhau ymgynghoriad ar ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol, felly cadwch lygad allan am fwy o fanylion am hyn yn fuan.”