Prosiect Cerddoriaeth yn Taro Tant gyda Thadau Blaenau Gwent

Mae prosiect llesiant sy'n defnyddio cerddoriaeth yn helpu tadau ledled Blaenau Gwent i feithrin hyder, cryfhau perthnasoedd a gwella eu hiechyd meddwl drwy greadigrwydd a chysylltiad.

Mae prosiect Nurturing Dads, a gyflwynir gan Inside Out Cymru mewn partneriaeth â thîm Dechrau'n Deg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a ariennir gan Sefydliad Baring, wedi cefnogi tadau drwy sesiynau cerddoriaeth rheolaidd a luniwyd yn seiliedig ar eu diddordebau a'u profiadau.

Wedi'i gynllunio i chwalu rhwystrau i gael cymorth, creodd y prosiect amgylchedd hamddenol a chroesawgar lle gallai tadau gysylltu ag eraill, rhannu profiadau ac archwilio cerddoriaeth gyda'i gilydd. Gyda chymorth Gweithwyr Cymorth Tadau Dechrau'n Deg, cafodd cyfranogwyr eu hannog i fynychu drwy gymorth ymarferol megis cludiant, trefniadau hyblyg a chroeso cyfeillgar gan wynebau cyfarwydd.

Dan arweiniad y cerddor Alex Lupo, daeth y sesiynau â thadau o bob gallu cerddorol ynghyd. Nid perfformio oedd y ffocws, ond creu cyfleoedd ar gyfer sgwrsio, cysylltu a chynnig cefnogaeth i'w gilydd. O ganlyniad, ffurfiodd llawer o'r cyfranogwyr gyfeillgarwch a barhaodd y tu hwnt i'r sesiynau.

Dywedodd un cyfranogwr:

"Rwy'n sylwi bod pethau gartref yn teimlo'n llai anodd oherwydd fy mod yn gwybod y gallaf ddod yma a siarad am y pethau yn fy mywyd sy'n heriol. Mae'n helpu."

Canfu gwerthusiad annibynnol gan Ruthless Research fod y prosiect wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol, gyda:

  • 83% yn nodi gwelliant yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant
  • 66% yn nodi mwy o hyder yn eu rôl fel tad
  • Teimladau cryfach o gysylltiad a chefnogaeth gan gyfoedion
  • Cyfeillgarwch newydd a rhwydweithiau cymorth yn datblygu y tu hwnt i'r sesiynau

Becca May Collins, Rheolwr Prosiect, Inside Out Cymru

"Mae cerddoriaeth wedi helpu'r tadau i ddarganfod eu creadigrwydd, meithrin hyder a chysylltu ag eraill. Mae dod â hynny i wasanaeth dibynadwy fel Dechrau'n Deg yn helpu tadau i deimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan, gyda chefnogaeth gyfarwydd o'u cwmpas. Mae'r ffaith bod y tadau yn parhau i gyfarfod a gwneud cerddoriaeth gyda'i gilydd yn dangos gwerth parhaol y model hwn: adeiladu sgiliau, hyder a rhwydweithiau cymorth a all gynnal llesiant ymhell ar ôl i'r sesiynau a ariannwyd ddod i ben."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

"Mae Nurturing Dads wedi dangos pa mor bwysig yw creu mannau croesawgar lle mae tadau'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn perthyn. Drwy gerddoriaeth a phrofiadau a rennir, mae tadau wedi meithrin hyder, ffurfio cyfeillgarwch parhaol a chryfhau perthnasoedd gyda'u plant. Rwy'n hynod falch o bawb a fu'n rhan o'r prosiect a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae wedi'i wneud i deuluoedd ledled Blaenau Gwent."

Er i'r sesiynau dan hwyluso ddod i ben ym mis Hydref 2026, mae'r gefnogaeth yn parhau, gyda'r tadau yn dal i gyfarfod yn rheolaidd gyda chymorth Gweithwyr Cymorth Tadau Dechrau'n Deg. Bydd ymweliadau dilynol gan Alex Lupo yn helpu i gynnal y momentwm, tra bydd gwerthusiad terfynol ym mis Mawrth 2027 yn archwilio effaith hirdymor y prosiect.

Mae stori Nurturing Dads hefyd wedi'i chofnodi mewn ffilm newydd a gynhyrchwyd gan We Are Torchy https://youtu.be/tlNQFD1BIdI, sy'n rhannu profiadau'r tadau, y teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol dan sylw, gan amlygu'r gwahaniaeth parhaol y mae'r prosiect wedi'i wneud yn y gymuned.