Mae timau cynnal a chadw priffyrdd yn gwirio draeniau a gylïau dŵr fel rhan o gynllun paratoi ar gyfer y gaeaf y Cyngor ym Mlaenau Gwent.
Yn ogystal â chlirio draeniau, mae'r holl finiau halen yn cael eu gwirio a'u hail-lenwi i baratoi ar gyfer y gaeaf.
Mae gan y Cyngor stoc o 3,400 tunnell o halen, pum cerbyd taenu halen mawr y gellir eu ffitio ag aradr eira, dau gerbyd taenu halen llai, a gweithlu wrth law sy'n barod i ymateb i amodau sy'n newid 24 awr y dydd trwy gydol y gaeaf.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei staffio gan griw craidd o 30 o yrwyr a swyddogion sydd ar alwad am wythnos ar y tro, gyda chymorth ein Huned Cynnal a Chadw Trafnidiaeth, sy'n gofalu am y cerbydau taenu halen.
Derbynnir rhagolygon tywydd dair gwaith y dydd, a chaiff tymheredd y ffyrdd eu monitro gan gyfres o orsafoedd tywydd ar draws y fwrdeistref. Mae hyn yn galluogi'r Cyngor i daenu halen ar ffyrdd dim ond pan fo angen, a phan fydd hynny'n fwyaf effeithiol.
Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bob ffordd A a B, prif lwybrau bysiau, prif lwybrau dosbarthu, a ffyrdd sy'n agos at ysgolion, ardaloedd diwydiannol ac ardaloedd manwerthu. Bydd halen yn cael ei daenu ar y rhain fel mesur rhagofalus pan fydd y rhagolygon tywydd yn galw am hynny. Mewn tywydd eithafol, bydd halen hefyd yn cael ei daenu mewn ardaloedd eraill, megis ffyrdd llai a meysydd parcio sy'n eiddo i'r Cyngor, yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael.
Mae dros 600 o finiau halen wedi’u lleoli ar draws y fwrdeistref i drigolion eu defnyddio ar lwybrau cerdded a ffyrdd ochr sydd wedi’u mabwysiadu yn eu hardaloedd lleol. Mae’r Cyngor yn atgoffa trigolion i ddefnyddio’r halen yn gyfrifol – haen denau, wedi’i gwasgaru’n gyfartal ar arwynebau sydd wedi’u clirio o eira’n gyntaf, yw’r cyfan sydd ei angen fel arfer i fod yn effeithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:
“Rydym yn paratoi ar gyfer y gaeaf a hoffem annog cymunedau i baratoi hefyd. Mae cyngor defnyddiol ar gael ar-lein yma.
“Hoffwn hefyd ofyn i drigolion gadw llygad ar y draeniau yn yr ardaloedd lle maent yn byw neu'n teithio o fewn y fwrdeistref, a rhoi gwybod am unrhyw rwystrau cyn gynted â phosibl. Rydym yn gwirio’r rhain yn rheolaidd, ond gall rhwystr ddigwydd yn sydyn; rydym yn dibynnu ar y gymuned i fod yn ‘llygaid a chlustiau’ i ni, fel y gallwn ymateb i unrhyw broblemau’n gynnar.
“O ran y tywydd oer, rydym ar hyn o bryd yn taenu halen fel rhagofal ar tua 48% o’n rhwydwaith ffyrdd bob tro y mae’n debygol y bydd rhew neu eira yn ffurfio ar wyneb y ffordd. Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, ac o ystyried anrhagweladwyedd y tywydd, nid yw’n bosibl cadw ffyrdd yn hollol rydd o rew ac eira drwy’r amser. Felly, hoffem atgoffa gyrwyr i fod yn ofalus iawn yn ystod misoedd y gaeaf.”
Gall preswylwyr weld y llwybrau taenu halen a dod o hyd i’r bin halen agosaf atynt yma.
Cofrestrwchi dderbyn rhybuddion rhag lilifogydd i gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rhowch wybod i ni am broblem draenio drwy Fy Ngwasanaethau, Ap Blaenau Gwent, neu drwy ffonio 01495 311556.
I roi gwybod am fin halen sydd wedi’i ddifrodi neu sy’n wag, ffoniwch 01495 311556. Darperir biniau halen at ddefnydd ar ffyrdd a llwybrau cerdded sydd wedi’u mabwysiadu’n unig.
