
Mae rhwydwaith cymorth newydd yn cael ei ddatblygu ar draws Gwent, dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy, i wella mynediad at gymorth i gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Gyda chefnogaeth cyllid gan raglen VALOUR Llywodraeth y DU, bydd y prosiect yn cryfhau'r gefnogaeth i gymuned ehangach y Lluoedd Arfog ar draws Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Mae'r gronfa ar gyfer datblygu canolfannau a gydnabyddir gan VALOUR yn helpu i greu canolfannau lle gall pobl gael cyngor, arweiniad a chefnogaeth wyneb yn wyneb. Daw'r cyllid gan Swyddfa Materion Cyn-filwyr o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn, ac mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn rheoli'r gronfa ar ei rhan.
Bydd y Rhwydwaith yn cael ei gydlynu trwy Bartneriaeth Lluoedd Arfog Gwent, a bydd yn dod â chynghorau, hybiau cyn-filwyr, gwasanaethau iechyd, darparwyr tai, cymorth gyda chyflogaeth, elusennau milwrol a sefydliadau cymunedol at ei gilydd.
Bydd ei ddull "Dim Drws Anghywir " yn helpu pobl i gael y cymorth iawn, pa bynnag wasanaeth y byddant yn cysylltu ag ef yn gyntaf. Bydd staff yn gwrando, yn nodi eu hanghenion ac yn eu cysylltu â'r sefydliad iawn.
Bydd y cymorth yn cynnwys iechyd a llesiant, tai, cyflogaeth, sgiliau, cyngor am fudd-daliadau a llesiant, ochr yn ochr â gweithgareddau cymunedol a chymorth i symud o fywyd milwrol i fywyd fel sifiliad.
Bydd help ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein. Bydd y rhwydwaith hefyd yn estyn allan at bobl mewn cymunedau ledled Gwent.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: "Wrth i ni nodi Diwrnod y Cofio, cofiwn am ein dyled enfawr i'r rheiny sydd wedi gwasanaethu, a’r rheiny sy’n parhau i wasanaethu, yn ein Lluoedd Arfog, ac i'w teuluoedd, a mor ddiolchgar ydyn ni iddyn nhw.
"Pan fydd angen help ar gyn-filwyr neu eu teuluoedd, dylent deimlo'n hyderus y bydd rhywun yn gwrando, yn deall beth sydd ei angen arnynt ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth iawn, yn hytrach na gorfod ffeindio’u ffordd drwy sefydliadau gwahanol ar eu pennau eu hunain.
"Mae gennym gyfoeth o gefnogaeth yn ein cymunedau yn barod, o hybiau cyn-filwyr a thimau’r Cyngor i wasanaethau'r GIG ac elusennau. Mae'r cyllid hwn yn gyfle i ni ddod â'r gefnogaeth honno at ei gilydd, felly ble bynnag y mae rhywun yn byw yng Ngwent, mae'n haws iddyn nhw gael yr help sydd ei angen arnynt."
Dywedodd y Cynghorydd Derrick Bevan, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Blaenau Gwent:
'Bydd hyn yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd ym Mlaenau Gwent i gefnogi ein cymuned o aelodau'r Lluoedd Arfog, drwy amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol.
“Mae'n bwysig, pan fydd cyn-filwyr a'u teuluoedd angen cymorth, ein bod yn gallu eu cyfeirio'n gyflym at y cymorth cywir. Bydd y prosiect hwn yn helpu i wneud hi'n haws cael gafael ar gymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion.
“Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd ym Mlaenau Gwent i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu, ac sy'n parhau i wasanaethu, yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â'u teuluoedd.'