Ysbryd cymunedol yn disgleirio yn ystod Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent

Yn ystod ymgyrch lanhau a barhaodd am wythnos, mentrodd gwirfoddolwyr allan mewn pob math o dywydd i wella mannau gwyrdd lleol, parciau, dyfrffyrdd a llwybrau cyhoeddus – arddangosiad pwerus o falchder cymunedol a gweithredu dros yr amgylchedd.

Casglwyd bron i 50 bag o sbwriel yn ystod Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent, a gynhaliwyd rhwng 19 a 24 Hydref. Trefnwyd yr wythnos gan Cadwch Gymru'n Daclus, a gwelwyd gwirfoddolwyr o bob oed yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar fannau lle’r oedd llawer o sbwriel, gan wneud gwahaniaeth amlwg i'r amgylchedd.

Ymunodd y Cynghorydd Helen Cunningham, o Ward Llanhiledd â'r gwaith glanhau strydoedd ac afonydd yn Llanhiledd, a dywedodd:

"Mae wedi bod yn wythnos wych, gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau a gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i helpu i drawsnewid yr amgylchedd lleol. Mae'r gwaith y mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi'i wneud i wneud hyn yn bosibl, gan gydweithio â sefydliadau lleol ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, ​​yn anhygoel, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt."

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan dîm gwasanaethau gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, mae Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent yn rhan o waith parhaus i gefnogi cymdogaethau glanach a grymuso pobl leol i weithredu yn eu cymunedau.

Dywedodd Debbie Cox, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Blaenau Gwent:

“Rydym yn hynod falch o bawb a roddodd eu hamser, eu hegni a'u brwdfrydedd trwy gydol yr wythnos. Diolch i'w hymdrechion a chefnogaeth ein partneriaid lleol, casglwyd bron i 50 bag o sbwriel, gan greu gwahaniaeth gweladwy a pharhaol ar draws Blaenau Gwent.

“Mae Wythnos Gwirfoddoli yn tynnu sylw at yr effaith anhygoel y gellir ei chyflawni pan ddaw pobl at ei gilydd i ofalu am eu hamgylchedd lleol.

“Gobeithiwn y bydd yr wythnos yn annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan a phrofi’r effaith gadarnhaol y gall gwirfoddoli ei chael ar eu cymuned ac ar eu llesiant eu hunain. P’un a oes gennych awr i’w sbario, neu a hoffech wirfoddoli’n fwy rheolaidd gyda ffrindiau, teulu neu gymdogion, gall Cadwch Gymru’n Daclus ddarparu’r gefnogaeth, yr offer a’r cyfleoedd i’ch helpu i wneud gwahaniaeth.”

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus, www.keepwalestidy.cymru, neu cysylltwch â Debbie Cox yn debbie.cox@keepwalestidy.cymru