Pennawd ar y we: Y Cyngor yn dod ynghyd â busnesau a chymunedau ar gyfer gweddnewidiad canol tref Brynmawr

Bydd menter newydd Trefi Gyda'n Gilydd yn gweld y Cyngor yn gweithio gyda thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i ailwampio stryd yng nghanol tref Brynmawr yr haf hwn.

Bydd Trefi Gyda'n Gilydd yn gweld pobl yn ymuno ar gyfer gweddnewidiad undydd o Stryd Beaufort ddydd Sadwrn 22 Awst, o 9yb. Dewiswyd y stryd gan dros 72% o bobl yn ystod arolwg cyhoeddus diweddar.

Mae'r cyngor yn brysur yn ymgysylltu â busnesau lleol ac aelodau o'r gymuned i gynnwys pobl yn yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd fel rhan o'r gweddnewidiad, a sut y gallant helpu ar y diwrnod. Gallai gwelliannau gynnwys paentio, glanhau a phlannu, i gyd gyda'r nod o wneud yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lle:

"Mae Trefi Gyda'n Gilydd yn enghraifft wych o Fargen Blaenau Gwent, sy'n dangos sut y gall cymunedau ddod at ei gilydd gyda'r cyngor i wella'r ardal y maent yn byw ynddi. Rydym wedi gwrando ar fusnesau a thrigolion sy'n dweud wrthym eu bod am weld gwelliannau yn cael eu gwneud i ganol eu tref ac, er bod gan y cyngor rôl sylweddol i'w chwarae yn hyn, mae'n amlwg bod newid parhaol go iawn yn dod o bawb yn tynnu at ei gilydd, yn gwneud y gwaith, ac yn y pen draw yn ymfalchïo yn eu tref ac awydd i ofalu amdani.

"Gyda'r weithred ar y cyd hwn, rydym yn gobeithio gwneud ein canol trefi yn ardaloedd lle mae pobl eisiau ymweld â nhw a busnesau eisiau buddsoddi."

Cyn y dydd, bydd y cyngor hefyd yn cynnal golchi jet yn yr ardal. 

Mae'r rhaglen Trefi Gyda'n Gilydd yn rhan o ddull Bargen Blaenau Gwent newydd y cyngor o weithio ochr yn ochr â chymunedau.

Am fwy o fanylion am sut y gallwch gymryd rhan yn Trefi Gyda'n Gilydd ym Mrynmawr cliciwch yma.

Ar ôl Brynmawr, tro nesaf bydd Trefi gyda'n gilydd yn cael ei gynnal yn Nant-y-glo.