Menyw o Flaenau Gwent yn cael dirwy gan y llys am fethu â chydweithredu ag ymchwiliad i dipio anghyfreithlon

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi erlyn menyw o Lanhiledd yn llwyddiannus am fethu â chynorthwyo ag ymholiadau i dipio anghyfreithlon, ar ôl i dystiolaeth a gafwyd gan y Cyngor ei chysylltu â dyddodi gwastraff rheoledig yn anghyfreithlon.

Methodd Fallon Partridge, o Stryd y Ddol, ag ymgysylltu ag ymchwiliad y Cyngor i ddigwyddiad tipio anghyfreithlon ger Heol y Rheithordy, Swffryd yn 2025. Roedd hyn er gwaethaf sawl ymgais a chyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig. Cafodd yr achos ei glywed yn ddiweddar gan ynadon yng Nghwmbrân a osododd ddirwy o £400, costau o £716 a gordal dioddefwr o £160.

Cafodd yr erlyniad ei ddwyn gan y Cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Dywedodd Aelod Cabinet Cymdogaethau a'r Amgylchedd Cyngor Blaenau Gwent,  y Cynghorydd Tommy Smith:

“Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn tipwyr anghyfreithlon a'r rhai sy'n methu â chydweithredu ag ymchwiliadau'r cyngor. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol sy'n niweidio ein hamgylchedd a'n cymunedau. Byddwn yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau'n drylwyr a gweithredu lle bo angen - ni fydd y math hwn o drosedd amgylcheddol yn cael ei oddef yn ein bwrdeistref.”

Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon drwy gysylltu â Chyngor Blaenau Gwent ar 01495 311556 neu drwy ddefnyddio Fy Ngwasanaethau. 

Atgoffir trigolion i waredu gwastraff yn gyfrifol. Os ydych chi'n talu i gael gwared ar wastraff, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n talu am gludwr trwyddedig gallwch wirio hyn yma.