Gofal plant Dechrau'n Deg yn barod i'w gyflwyno ar draws Blaenau Gwent

Fel rhan o ehangu rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru ar draws Cymru, bydd gan bob plentyn sy'n ddwy oed ar neu cyn 31 Awst 2026 ym Mlaenau Gwent hawl i 12 awr a hanner o ofal plant wedi'i ariannu'n llawn o fis Medi 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Blaenau Gwent:

"Mae gwneud gofal plant yn fwy fforddiadwy yn newyddion gwych i bob teulu ac rwy'n falch ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â'r cynnig estynedig hwn mor gyflym ym Mlaenau Gwent.

"Mae cymorth gofal plant i deuluoedd yn un o'r prif ysgogiadau sydd gennym i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau addysgol felly bydd mynediad at addysg a gofal blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant ac yn rhoi cymorth ymarferol i rieni yn ystod y blynyddoedd cyntaf pwysig o fywyd teuluol.”

Gall plant gael lle gofal plant rhan-amser o'r tymor yn dilyn eu hail ben-blwydd nes eu bod yn gymwys i gael lle mewn meithrinfa yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd a gallant ddewis lleoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg.

Dywedodd Rheolwr Gofal Plant a Chwarae Cyngor Blaenau Gwent, Claire Smith:

"Mae Blaenau Gwent yn barod i gyflwyno gofal plant Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fis Medi ymlaen, gyda phlant yn derbyn dwy awr a hanner o ofal plant a ariennir bob dydd, hyd at 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o'r flwyddyn gyda lleoliad gofal plant neu warchodwr plant cofrestredig Dechrau'n Deg o fewn y fwrdeistref.

"I wneud cais, rhaid i rieni lenwi ffurflen gais cyn 31 Awst, gyda'u dewis cyntaf, ail a thrydydd o ddarparwr gofal plant. Bydd rhieni'n derbyn llythyrau gyda manylion sut i wneud cais am le gofal plant o 10 Awst 2026. Dylai dros 100 o deuluoedd cymwys dderbyn llythyrau cyn bo hir.

"Er y byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni dewisiadau, mae gan rai darparwyr leoedd cyfyngedig, ac ni allwn warantu eich dewis cyntaf. Bydd lleoedd yn cael eu cadarnhau o'r wythnos sy'n dechrau 14 Medi."

Gall rhieni wneud cais yma – Dechrau’n Deg – Cyflwyniad llawn 2026 neu drwy ffonio'r Hwb Cymorth i Deuluoedd ar 01495 315700 neu anfon e-bost at FamilySupportHub@blaenau-gwent.gov.uk

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 31 Awst. Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau'r cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Natalie Hill, Cydlynydd Gofal Plant ar 01495 369544 neu anfonwch e-bost at: Natalie.Hill@blaenau-gwent.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau gofal plant ewch i Gofal Plant | CBS Blaenau Gwent neu ffoniwch yr Hwb Cymorth i Deuluoedd ar 01495 315700.