Daeth plant teuluoedd milwyr o bob rhan o Flaenau Gwent at ei gilydd yn Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu Mis Plentyn y Fyddin, gan gydnabod gwytnwch a phrofiadau plant o deuluoedd milwyr.

Yn ddiweddar, enillodd Ysgol Gynradd Willowtown Statws Efydd ym menter Little Troopers Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, sy'n cydnabod ysgolion sy'n cefnogi plant milwyr yn weithredol.
Daeth y digwyddiad â 30 o blant o 10 ysgol at ei gilydd, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg (SSCE) Cymru a'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, y Cynghorydd Sue Edmunds.
Dywedodd mam yn Willowtown, Carys Jones:
"Mae Little Troopers wedi rhoi'r cyfle amhrisiadwy i'n mab wneud ffrindiau newydd a chael dealltwriaeth o anghenion amrywiol teuluoedd milwyr. Mae'n galonogol gwybod bod gwasanaeth pwrpasol sy'n ystyried ac yn cefnogi gofynion unigryw teuluoedd milwyr.
"Fel rhieni, mae Willowtown wedi rhoi cyfle i ni gymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol, ac maen nhw wedi bod yn eithriadol o dda wrth hwyluso gweithrediad Little Troopers. Am hyn, rydyn ni wir yn ddiolchgar."
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, y Cynghorydd Sue Edmunds:
"Mae lles plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i ni. Mae plant y fyddin yn aml yn wynebu heriau unigryw, o symud yn aml i dreulio amser ar wahân i’w hanwyliaid. Roeddwn yn falch iawn o fynychu'r digwyddiad hwn, a ddaeth â'n hysgolion a'n cymunedau at ei gilydd i ddathlu eu gwytnwch ac i ailddatgan ein hymrwymiad cyffredin i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd.
"Fel Cyngor, rydyn ni’n ymrwymedig i gefnogi aelodau presennol a chyn-aelodau o'n lluoedd arfog trwy Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog."
Dywedodd y Pennaeth, Mel Evans:
"Mae ein Statws Efydd yn dangos ymrwymiad parhaus yr ysgol i ddeall anghenion plant milwyr a chreu amgylchedd cefnogol, cynhwysol, gan sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n ynysig oherwydd gwasanaeth ei deulu. Roeddem yn falch iawn o ddod â phlant o wahanol ardaloedd ond gyda'r un profiadau at ei gilydd ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn – roedd yn ddiwrnod gwirioneddol arbennig ac rydyn ni’n gobeithio ei wneud yn ddigwyddiad blynyddol."
Dywedodd Cara Lloyd Roberts, Swyddog Cyswllt Ysgolion SSCE Cymru:
"Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Willowtown ym Mlaenau Gwent ar gyflawni eich statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos eich ymroddiad i adnabod a chefnogi plant milwyr, dyfnhau dealltwriaeth o'u profiadau unigryw, ac ymgysylltu'n weithredol â chymuned y Lluoedd Arfog.
"Diolch hefyd am gynnal eich digwyddiad diweddar Mis Plentyn y Fyddin, gan ddod â phlant milwyr o bob rhan o Flaenau Gwent at ei gilydd - enghraifft ysbrydoledig o'ch ymrwymiad i adeiladu cysylltiad, ymwybyddiaeth a chefnogaeth. Cyflawniad gwirioneddol haeddiannol, da iawn i bawb.
"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi ac edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith hwnnw gyda chi ac ysgolion Blaenau Gwent."
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad Little Troopers, ac yna arddangosfa arteffactau'r fyddin a ddarparwyd gan riant sy'n gwasanaethu, a oedd wrth law i esbonio a rhannu straeon y tu ôl i'r eitemau. Yna mwynhaodd y plant frynsh cyn cymryd rhan mewn sesiwn adrodd straeon rhyngweithiol gyda Louby Lou.
Cymerodd y disgyblion ran hefyd mewn sesiwn adeiladu tîm a ffitrwydd a gyflwynwyd gan Aneurin Leisure a gweithgaredd celf i greu arddangosfa weledol i nodi Mis Plentyn y Fyddin.
Daeth y digwyddiad i ben drwy gyflwyno bathodynnau pin Little Troopers, gan gydnabod cyfranogiad a gwytnwch y plant.
Darparwyd cyllid ar gyfer y diwrnod gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, gan alluogi rhaglen o weithgareddau creadigol, rhyngweithiol ac adeiladu tîm wedi'u cynllunio o amgylch cysylltiad, dealltwriaeth a hwyl.
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:
- Blaen-y-Cwm
- Ysgol Gatholig y Santes Fair
- Ystruth
- Coed-y-Garn
- Ysgol Bro Helyg
- Ysgol Gynradd Ebwy Fawr
- Rhos-y-Fedwen
- Bryn Bach
- Ysgol Gatholig yr Holl Saint
I gael rhagor o wybodaeth am SCCE Cymru ewch i: Gwefan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru
