Ysgol Gynradd Gymraeg

Un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd ym Mlaenau Gwent ar hyn o  bryd sef Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Blaenau, gydag ysgol arall yn agor yn mis Medi 2023 fel ysgol egin yn Nhredegar ar gyfer lleoedd Meithrin a Derbyn. Mewn addysg cyfrwng Cymraeg, defnyddir y Gymraeg ar gyfer addysgu’r cwricwlwm, fodd bynnag caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu dysgu fel pynciau. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn trochi plant yn y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Bydd eich plentyn yn siarad Cymraeg yn y dosbarth a chaiff ei annog i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Bydd hyn yn rhoi mwy o brofiad iddo/iddi o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, gwella safon eu Cymraeg a sicrhau eu bod yn hollol ddwyieithog.

Gall pob plentyn sy’n derbyn addysg Gymraeg drosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg pa bynnag iaith a siaredir yn y cartref.