Grant Cydlyniant Cymunedol 2026 Ffurflen Cais am Gyllid

Mae’n bleser gennym ni i lansio Grant Cydlyniant Cymunedol 2026. Mae’n gyfle i grwpiau cymunedol, sefydliadau’r trydydd sector ac ysgolion i wneud cais am hyd at £2,000 i gefnogi prosiect newydd neu i gyfoethogi prosiect sydd eisoes yn bodoli.

Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau y mae eu prosiectau yn:

  • Hyrwyddo ymdeimlad cryf o berthyn – er enghraifft, mentrau sy’n dathlu treftadaeth leol neu’n dangos hunaniaeth gymunedol, ac yn ei hatgyfnerthu.
  • Annog aelodau o'r gymuned i ddod at ei gilydd i hyrwyddo diddordebau a rennir – yn cynnwys prosiectau sy’n hyrwyddo cynhwysiant, yn mynd i'r afael ag unigrwydd neu'n cefnogi undod.
  • Herio gwahaniaethu a rhagfarn ac annog cynhwysiant – fel gwaith sy’n mynd i'r afael ag anoddefgarwch, stereoteipiau a rhagfarn (er enghraifft gwrth-Semitiaeth ac Islamoffobia), neu sut mae eich prosiect yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac yn helpu i feithrin cysylltiadau da rhwng pob cymuned.
  • Cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig a chryfhau cydlyniant cymunedol - yn cynnwys prosiectau sy’n ymgysylltu â’r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr; Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches neu gymunedau eraill yn ardal Caerffili, Torfaen a/neu Flaenau Gwent.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener 10 Gorffennaf 2026. Cofiwch rhaid cwblhau prosiectau yn llawn erbyn 31 Ionawr 2027 a’i gyflawni o fewn Cynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen, Blaenau Gwent neu Gaerffili. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael gwybod erbyn mis Medi 2026. Fyddwn ni ddim yn adolygu ceisiadau tan ar ôl y dyddiad cau.

Croesewir ceisiadau trwy'r ffurflen gais atodol wedi’i hanfon trwy e-bost i communitycohesionteam@torfaen.gov.uk

Gallwch weld enghreifftiau o brosiectau llwyddiannus 2025 isod. Sylwer, dydyn ni ddim yn chwilio am brosiectau sy’n union fel y rhain, dim ond enghreifftiau ydyn nhw.

Fe wnaeth Together on Air defnyddio pŵer cyfryngau creadigol i gysylltu pobl, gan ddod â thrigolion o wahanol oedrannau a chefndiroedd at ei gilydd. Daeth mwy na 80 o bobl ynghyd, yn cynnwys trigolion hŷn, pobl ifanc, cymunedau lleiafrifol, ffoaduriaid ac aelodau o gymunedau teithwyr, i gymryd rhan mewn sesiynau radio wythnosol yn BGfm Radio. Roedd y gweithgareddau yn cynnwys adrodd storïau, barddoniaeth, perfformiadau cerddorol a thrafodaethau meic agored. Cafodd bawb gyfle i gynllunio, recordio, darlledu’n fyw a golygu.

Roedd y darllediadau yn dathlu treftadaeth leol yn Nant-y-glo a'r cymoedd ehangach, tra hefyd yn adlewyrchu'r diwylliannau amrywiol sy'n siapio Blaenau Gwent heddiw. Roedd y sesiynau hefyd ar gael ar ffurf podlediadau.

Roedd Dathlu Diwylliant Affricanaidd yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn rhaglen fywiog o weithdai diwylliant Affricanaidd i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 16 oed. Cafodd y plant gyfle i archwilio diwylliannau a thraddodiadau Zimbabwe, Nigeria a Ghana yn ymarferol, yn cynnwys coginio Reis Jollof. Un o glasuron Nigeria, a chreu drymiau Djembe, masgiau llwythol a chollage ar y thema saffari.

Llwyddodd y sesiynau i annog trafodaeth agored, chwilfrydedd a pharch at wahanol ddiwylliannau, a chynnig lle diogel a chroesawgar i blant ddysgu, gofyn cwestiynau a dathlu amrywiaeth.

Roedd Cryfhau Ymdeimlad o Berthyn a Threftadaeth yn Nhŷ Cymunedol Bryn Farm yn rhaglen o weithgareddau cynhwysol, yn pontio’r cenedlaethau, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth, caredigrwydd a rhannu cyfrifoldeb.

Cafodd pobl leol gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a oedd yn amrywio o arddio a pharatoi bwyd, i gelfyddydau ac adrodd storïau. Gan ddefnyddio bwyd fel man cychwyn, aeth y trigolion hŷn ati i rannu atgofion am ddulliau traddodiadol o dyfu, sychu a phiclo bwyd, felly’n atgyfnerthu dealltwriaeth ymhlith y cenedlaethau ac ysbrydoli prosiectau garddio cymunedol yn y dyfodol.

Rhoddodd y prosiect bwyslais cryf ar barch, cynhwysiant, a mynd i’r afael â pherthnasoedd rhwng y cenedlaethau. O ganlyniad, mae gwirfoddolwyr newydd wedi camu ymlaen, ac mae grwpiau gweithgareddau ychwanegol bellach yn ffurfio yn y Tŷ Cymunedol.

Clwb Criced Abertyleri yn hyrwyddo criced i ferched gyda phwyslais ar ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhoddodd y prosiect hwn gyfle i ddisgyblion o bum ysgol gael hyfforddiant criced cynhwysol, mewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol. Fe wnaeth mwy na 300 o ddisgyblion gymryd rhan, yn cynnwys llawer nad oeddent erioed wedi cymryd rhan mewn chwaraeon strwythuredig o'r blaen. Cynlluniwyd y sesiynau i ddiwallu ystod eang o anghenion a galluoedd, drwy ddefnyddio offer wedi'i addasu a gweithgareddau pwrpasol, i sicrhau bod pawb a gymerodd rhan, yn teimlo eu bod yn cael cyfle i ymuno. Creodd y dull hwn ymdeimlad o berthyn i ddisgyblion o gefndiroedd diwylliannol, cymdeithasol ac addysgol amrywiol a chefnogwyd y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i gymryd rhan yn hyderus.

Mae'r prosiect hefyd wedi adfywio diddordeb yn nhraddodiad criced yr ardal, gan roi cyfle i ddisgyblion feithrin cyswllt â chlybiau lleol, a deall rôl criced wrth lunio hunaniaeth yn y gymuned.

Trwy’r fath ymgysylltu gyson, llwyddwyd i greu cyfeillgarwch ar draws gwahanol grwpiau o ddisgyblion, gan hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol a chryfhau dealltwriaeth ymysg unigolion o gefndiroedd amrywiol. O ganlyniad, llwyddwyd i gryfhau llwybrau lleol i ferched a merched ifanc sydd am barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymunedau.