Ysgol Sefydliadol Brynmawr yn croesawu adborth cadarnhaol gan Estyn

Mae Ysgol Sefydliadol Brynmawr a Chyngor Blaenau Gwent wedi croesawu adroddiad Estyn sy’n cydnabod gwelliannau mewn cynllunio arweinyddiaeth strategol a gwelliannau sylweddol mewn addysgu a dysgu, ymddygiad disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

Mae’r corff arolygu wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau yn dilyn ymweliad monitro diweddar i’r ysgol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd sylweddol a wnaed hyd yma ac yn dangos fod yr ysgol a’i uwch arweinyddiaeth yn gryf ac ymroddedig a bod eu ffocws ar sicrhau hyd yn oed mwy o newid.

Nododd yr adroddiad bod:

  • Ansawdd yr addysgu yn parhau i wella ac mae hyn yn parhau i fod yn ffocws. Mae’r pennaeth a’r tîm uwch wedi bod â ffocws llwyddiannus ar eu gweledigaeth ar gyfer gwella addysgu a dysgu, ymgysylltu â disgyblion ac uchelgais, a meithrin gallu arwain ar bob lefel. Cafodd y gwaith effaith sylweddol ar ansawdd yr addysgu, agweddau disgyblion at addysgu a gallu arweinwyr i gynllunio’n gadarn ar gyfer gwella.
  • Arweinwyr ysgol yn gwerthuso ansawdd y ddarpariaeth ac effaith fanwl hynny ar wybodaeth, sgiliau a chynnydd disgyblion.
  • Cryfhau dulliau o gefnogi ymddygiad disgyblion wedi gwella agwedd disgyblion at ddysgu, gan ennyn eu diddordeb mewn dysgu sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfer disgyblion a staff. Mae disgyblion yn derbyn ymyriad a chymorth amserol pan fydd angen.
  • Cynyddu cyfleoedd arweinyddiaeth disgyblion a system Tŷ newydd wedi creu ymdeimlad cryf o gymuned.
  • Presenoldeb wedi gwella.

Mae Mr Gerard McNamara, Pennaeth yr Ysgol yn hynod falch o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Dywedodd:

“Mae’r canfyddiadau yn cydnabod gwaith ymroddedig a phenderfynol llywodraethwyr, staff yr ysgol a disgyblion. Mae rhieni/gofalwyr wedi chwarae eu rhan wrth gefnogi’r ysgol i sicrhau fod eu plant yn gwneud cynnydd cryf. Mae gennym rywbeth arbennig yn yr ysgol ac rwy’n falch tu hwnt o gymuned yr ysgol. Mae hwn yn anrheg Nadolig cynnar gwych a hynod.”

Croesawodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg y Cyngor, yr adroddiad a diolchodd i bawb oedd yn gysylltiedig am eu gwaith caled ac ymroddiad. Dywedodd:

“Mae darparu’r safonau a chyfleoedd addysgol gorau posibl ar gyfer ein plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. Mae hwn yn adroddiad gwych i Ysgol Sefydliadol Brynmawr, sy’n cydnabod yr holl welliannau go iawn a gafodd eu sicrhau er budd disgyblion a’u teuluoedd.

“Nid yw hyn wedi digwydd drwy hud a lledrith fodd bynnag, a hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig gyda’r daith gwella, yn arbennig y Pennaeth a’i uwch dîm arweinyddiaeth, y Corff Llywodraethu ac yn wir yr holl staff addysgu a chymorth. Rydych i gyd wedi cydweithio, mewn partneriaeth gyda’r Cyngor a Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru, i sicrhau newid ystyrlon a fydd yn bendant yn cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol pobl ifanc. Yn olaf ond yn sicr nid yn lleiaf, diolch i’r bobl ifanc eu hunain am weithio mor galed ac i rieni a gofalwyr am eich cefnogaeth barhaus.

“Mae mwy o waith i gael ei wneud ond mae’r ysgol mewn sefyllfa dda i fynd o nerth i nerth.”

Dywedodd Bryan Davies, Cadeirydd Corff Llywodraethu yr ysgol:

“Roedd Llywodraethwyr yn falch iawn i ddarllen yr adroddiad rhagorol hwn. Rydym wrth ein bodd dros y staff, rhieni a disgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu perthynas gref a pharhaus gyda’r Awdurdod Lleol a phartneriaid allanol. Dan arweinyddiaeth gref, bydd ein gwelliannau sylweddol yn parhau i ragori ar ein disgwyliadau. Cafodd cyfoeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol eu darparu o fewn yr ysgol, ac fel canlyniad mae addysgu yn effeithlon iawn. Mae’n amser am ddathliad mawr.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.