Ysgol Gynradd Willowtown phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’.

Nod Ysgol Gynradd Willowtown oedd cefnogi teuluoedd a thrigolion y gymuned trwy ei phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’.

Mae BBB yn gynhwysydd a ddefnyddir i gludo nwyddau ar long ac mae wedi cael ei drawsnewid yn Siop Gymunedol fach a chroesawgar. Staff yr ysgol, cenhadon ifainc sy’n ddisgyblion yn yr ysgol a rhieni a gofalwyr sy’n gwirfoddoli, sy’n rhedeg y siop. 
 
Mae’r BBB ar agor ddwywaith yr wythnos ac mae’n gweithredu ar fodel ‘Talwch Beth Fynnwch Chi’ sy’n golygu bod cwsmeriaid yn talu faint allan nhw ei fforddio a bod y prosiect hefyd yn lleihau rhagfarn ac yn cefnogi cynaliadwyedd.

Prif nodau’r ysgol oedd:
  • Lleihau Tlodi Bwyd
 • Cadw Gwastraff Bwyd i Leiafswm
 • Cefnogi teuluoedd a’r gymuned ehangach
 • Creu ryseitiau iach a maethlon sy’n ysbrydoli teuluoedd i goginio ac i fwynhau gyda’i gilydd
• Hyrwyddo cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ysbrydoli cyfranogiad.

Llwyddodd Ysgol Gynradd Willowtown i gael cyllid trwy grant Cydlyniant Cymunedol sydd wedi cefnogi’r prosiect BBB i dyfu ac i ffynnu. Gyda chymorth y nawdd hwn, mae’r ysgol wedi cael effaith ar deuluoedd mewn mwy nag un ffordd, trwy ddarparu bwyd maethlon i’w brynu, cardiau rysáit a gweithdai coginio a oedd hefyd yn cynnwys bag o fwyd i deuluoedd fynd adref ag ef er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ac yn gyffyrddus yn coginio’r rysáit gartref.

Fe fu rhieni’n gwirfoddoli i gyflwyno’r gweithdai coginio ac mae’r rhieni hyn wedi cwblhau Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Cefnogwyd hyn hefyd trwy’r grant a’r ysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau gwaith ar gyfer y dyfodol ac wedi lleihau’r rhwystrau sy’n atal rhieni rhag trafod dewisiadau iachach ar gyfer prydau bwyd.

Mae mam-gus a thad-cus llawer o ddisgyblion hefyd wedi cael cefnogaeth gan y prosiect trwy fynd i siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos gyda staff. Yn sgil hyn mae’r ysgol wedi gallu adnabod patrymau siopa a chynnig opsiynau iachach eraill sy’n gost-effeithiol.

Mae’r ysgol yn falch o’i hamrywiaeth a thrwy’r prosiect hwn mae wedi gallu rhannu a chynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd ar wahân i brydau Prydeinig.

Meddai Rebecca Hughes, Swyddog Ymgysylltiad Teuluol a Dysgu, ‘Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi cael ei sefydlu’n gadarn yn ein Cymuned leol a’i fod yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei sefydlu’n barod, ac wedi gosod targedau ar gyfer y dyfodol a’u cyflawni. Mae wedi bod yn gymorth i chwalu rhwystrau a rhagfarn ac wedi annog cynhwysiant, amrywiaeth ac empathi yng Nghymuned yr Ysgol. Mae hefyd wedi cynnig cymorth hanfodol wrth ymgysylltu â rhieni ac aelodau o deuluoedd ac wedi fy ngalluogi i ddangos y ffordd at adnoddau cymunedol eraill sy’n rhad ac am ddim ac i weithio’n fwy mewn partneriaeth’.

Erbyn hyn mae’r prosiect wedi ehangu i greu rhandir ar gyfer yr ysgol ac mae gwirfoddolwr, Mr Kettle, wedi dechrau clirio lle ac adeiladu gwelyau uchel ac wedi gweithio gyda Grŵp Senedd Eco’r ysgol i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Gwanwyn 2024.