Taliadau Cychwyn Iach y GIG yn cynyddu o fis Ebrill 2026

Mae symiau taliadau wythnosol ar gyfer cynllun Cychwyn Iach y GIG wedi cynyddu o 6 Ebrill 2026. 

Y symiau taliadau wythnosol newydd yw:

  • £4.65 yr wythnos i bobl sydd fwy na 10 wythnos yn feichiog
  • £9.30 yr wythnos i blant dan flwydd oed
  • £4.65 yr wythnos i blant rhwng un a phedair oed

Mae'r cynnydd yn berthnasol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a bydd pobl ar y cynllun yn ei dderbyn yn awtomatig.

Mae cynllun Cychwyn Iach y GIG yn helpu menywod beichiog a theuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at fwyd iach, llaeth a fitaminau. Gallai pobl fod yn gymwys os ydynt yn fwy na 10 wythnos yn feichiog, neu os oes ganddynt blant dan bedair oed. Mae angen iddynt hefyd dderbyn rhai budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm.

Y llynedd, aeth miloedd o bynnoedd heb eu hawlio ym Mlaenau Gwent drwy’r cynllun Dechrau’n Iach.

Gall unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn gymwys wirio'r wefan a gwneud cais ar-lein yn: www.healthystart.nhs.uk