Rhaglen Trailblazers yn trawsnewid bywydau ym Mlaenau Gwent

Mae rhaglen cyflogadwyedd beilot yn helpu trigolion ar draws Blaenau Gwent i ailadeiladu hyder, gwella eu llesiant a symud yn agosach at waith.

Mae Trailblazers, a ariennir gan lywodraeth y DU, sy'n cael ei dreialu mewn tair ardal yng Nghymru, bellach wedi cefnogi mwy na 700 o bobl i ennill cymwysterau a thystysgrifau sy'n gysylltiedig â gwaith, cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli a chwblhau lleoliadau gwaith.

Mae fideo newydd yn dangos yr effaith y mae hyn yn ei chael yn lleol.  Gwyliwch yma.

Mae'r rhaglen, sydd wedi'i theilwra i unigolion, yn helpu pobl i oresgyn rhwystrau fel diweithdra hirdymor, iechyd meddwl gwael ac ynysu cymdeithasol. Mae eisoes yn cyflawni canlyniadau ystyrlon, gyda mwy na hanner y cyfranogwyr yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl hanfodol, a dros ddwy ran o dair yn ymgysylltu'n rheolaidd â gweithiwr allweddol ymroddedig. Mae'r gefnogaeth hon yn helpu pobl i feithrin ymddiriedaeth, adennill hyder a chymryd camau cadarnhaol ymlaen.

Mae Trailblazers hefyd yn cryfhau cymunedau, gyda thua 70% o gyfranogwyr bellach yn cymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau lleol, gan helpu i leihau ynysu ac ailgysylltu pobl â'u cymunedau. Ochr yn ochr â hyn, mae mwyafrif sylweddol yn datblygu sgiliau bywyd hanfodol, gan roi'r offer a'r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i reoli bywyd bob dydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd Blaenau Gwent, y Cynghorydd John Morgan:

“Rydym i gyd yn gweld y ffigurau diweithdra yn y newyddion, ond yn aml nid ydym yn gweld y bobl y tu ôl i’r niferoedd sy’n cael trafferth ac sydd heb y sgiliau a’r hyder i fynd i mewn i’r gweithle. Dyma’r bobl y mae Trailblazers yn ymgysylltu â nhw, ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, gan helpu i ailadeiladu eu hyder, gwella llesiant a rhoi ymdeimlad o’u cymuned iddynt eto. Mae’r canlyniadau rydym yn eu gweld yn dangos pa mor bwysig yw cefnogaeth gynnar, bersonol wrth helpu unigolion i gyrraedd eu potensial llawn, ac rydym yn falch o weld cymaint o drigolion yn cymryd camau cadarnhaol tuag at ddyfodol mwy disglair.

“Ein blaenoriaeth yw gyrru twf economaidd cynaliadwy ac ysbrydoli uchelgais a gwydnwch drwy leihau anghydraddoldebau a grymuso pobl o bob oed i fyw bywydau gwybodus, annibynnol ac iach.”

Mae prosiectau creadigol a phrosiectau dan arweiniad y gymuned hefyd yn helpu i ysbrydoli ac ymgysylltu â chyfranogwyr. Mae mentrau fel y Prosiect Creu Ffilm wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, meithrin hyder a chymryd balchder yn eu hardal leol, wrth archwilio posibiliadau gyrfa yn y dyfodol mewn amgylchedd cefnogol.

Dywedodd un cyfranogwr a ddioddefodd o iechyd meddwl yn dirywio:

“Mae ymgysylltu â Trailblazers wedi fy helpu i gryfhau fy nghysylltiadau cymdeithasol a gwella fy llesiant cyffredinol. Mae'r gefnogaeth hon wedi fy ngalluogi i feithrin hyder, sefydlu arferion iachach, a theimlo'n fwy cadarnhaol am ail-ymgysylltu â bywyd bob dydd.”