Mae wyth o drigolion lleol wedi cael eu penodi'n swyddogol i Fwrdd Cymdogaeth Balchder Bro i helpu i benderfynu sut y bydd £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei fuddsoddi yn Nhredegar.

Yn y llun mae rhai o aelodau'r Bwrdd heddiw.
Bydd yr ardal yn derbyn arian o'r rhaglen Balchder Bro dros y 10 mlynedd nesaf. Y nod yw ariannu prosiectau a syniadau a fydd yn adfywio ac yn adfywiogi'r ardal. Mae'r grym gyda chymunedau lleol i benderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario orau er budd eu tref.
Hefyd ar y bwrdd mae'r AS lleol; cynrychiolydd cyngor a chynrychiolydd cyngor tref, gan ddod â'r cyfanswm i 12 cynrychiolydd.
Y Parchedig Matt Davis yw Cadeirydd y Bwrdd ac mae'n gyffrous am benodiad ei dîm newydd.
Dywed Matt:
“Cawsom gymaint o bobl angerddol yn ymgeisio; roedden ni wedi ein llethu’n llwyr gan yr ymateb felly diolch i bawb. Roedd hi’n anodd iawn penodi dim ond wyth o bobl. Mae gennym ni Fwrdd gwych yn ei le nawr, i adlewyrchu barn ac amrywiaeth ein cymunedau ac i wir symud Balchder Bro yn ei flaen yn Nhredegar. I bawb na chawsant eu penodi, dydyn ni ddim yn gadael i’ch angerdd a’ch brwdfrydedd ddiflannu, byddwn ni’n eich annog chi i gymryd rhan a dweud eich dweud wrth i gynlluniau fynd rhagddynt.
“Gallai’r cyllid hwn helpu i droi syniadau da yn newid parhaol ac adeiladu dyfodol hyderus a gobeithiol i’r dref ac alla i ddim aros i weithio gyda chi i gyd ar hynny.”
Y preswylwyr a benodwyd i'r Bwrdd yw:
- Busnes a'r Economi: Ryan Davies
- Cymunedol a Gwirfoddol: Ken Cowen
- Yr Amgylchedd: Cathy Johnson
- Cyllid: Lloyd Harris
- Iechyd a Llesiant: Leon Yandle
- Sgiliau a Chyflogaeth: Laura Callaghan
- Pobl Ifanc: Rhiannon Wooldridge
- Pobl Hŷn: Sarah Meyrick
Byddan nhw'n cyflwyno eu hunain ar sianeli cymdeithasol Tred 2036 felly dilynwch nawr:
Bydd Rhaglen ‘Balchder Bro’ Llywodraeth y DU yn gweld hyd at £5 biliwn yn cael ei roi i bron i 250 o ardaloedd ar draws y DU. Bydd Tredegar yn derbyn £20 miliwn o gyllid a chymorth dros y 10 mlynedd nesaf i wneud gwelliannau hirdymor y mae trigolion eu heisiau.
Cynigiodd Cyngor Blaenau Gwent Gwm Sirhywi fel y gymdogaeth i dderbyn y cyllid yn seiliedig ar feini prawf Llywodraeth y DU.
Dywedodd Nick Smith AS:
“Roedd yn bleser mawr mynychu cyfarfod cyntaf y Bwrdd Balchder Bro yn Nhredegar a bod yn rhan o recriwtio grŵp mor dalentog o bobl oedd mor angerddol am yr ardal. Gyda chynrychiolwyr o bob cwr o’r gymuned yn cynnig llond llaw o brofiadau gwahanol, mae’r Bwrdd mewn sefyllfa dda i roi llais dros newid cadarnhaol. O dan arweinyddiaeth y Cadeirydd, y Parchedig Matt Davis, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-aelodau’r Bwrdd i helpu i gyflawni’r rhaglen fuddsoddi £20 miliwn a chreu buddion parhaol i’r ardal.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Steve Thomas:
“Mae hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen yn y rhaglen Balchder Bro a hoffwn longyfarch holl aelodau newydd y Bwrdd ar eu penodiadau. Mae’r bobl hyn i gyd yn angerddol iawn am Dredegar a’i dyfodol ac mae ganddynt nawr y cyfle go iawn i nodi’r blaenoriaethau a sut y gellir gwario’r arian hwn ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i bobl leol.”