Penodi ficer Tredegar yn Gadeirydd rhaglen Balchder Bro i oruchwylio cyllid o £20 miliwn

Mae cynlluniau i fuddsoddi £20 miliwn yn Nhredegar wedi cymryd cam cadarnhaol ymlaen drwy benodi Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro.

Bydd y Parchedig Matt Davis yn arwain y bwrdd, a fydd yn cynnwys trigolion a phartneriaid lleol ac yn penderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario'n lleol i helpu i adfywio'r ardal.

Penodwyd Matt, ficer Eglwys Sant Siôr, Tredegar, yn dilyn proses recriwtio. Mae eisoes yn weithgar iawn yn y gymuned leol trwy wasanaethau eglwysig a gweithgareddau gan gynnwys clybiau cinio a grwpiau plant.

Meddai Matt:

"Rwy'n angerddol iawn am Dredegar a'i dyfodol. Er na chefais fy ngeni yma, rydw i wedi datblygu cariad dwfn at y dref, ei phobl a'i hymdeimlad cryf o gymuned. Fe wnes i gais i fod yn Gadeirydd Bwrdd Balchder Bro gan fy mod am i'r ardal ffynnu er budd pobl leol ac i'r holl bobl sy'n galw'r lle hwn yn gartref, er mwyn iddyn nhw gael mwy o obaith, uchelgais a chyfleoedd. Gallai'r cyllid hwn helpu i droi syniadau da yn newid parhaol. Rydw i am helpu'r Bwrdd i wrando'n dda, gweithio'n gadarnhaol gyda'i gilydd ac adeiladu dyfodol hyderus, gobeithiol i Dredegar."

Mae Matt bellach yn chwilio am wyth o bobl leol i ymuno ag ef yn y dasg bwysig hon ac mae'n arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â'r diddordebau, profiad a sgiliau canlynol.

  • Cyllid (rheoli arian, ariannu, cyllidebu)
  • Person Ifanc (llais ieuenctid, gwasanaethau ieuenctid, cyfleoedd pobl ifanc)
  • Person Hŷn (cefnogi preswylwyr hŷn, heneiddio'n dda)
  • Yr Amgylchedd (mannau gwyrdd, cynaliadwyedd, amgylchedd lleol)
  • Busnes / Economi (swyddi lleol, twf busnes, strydoedd mawr)
  • Cymunedol / Gwirfoddol (grwpiau cymunedol, gwirfoddoli, rhwydweithiau lleol)
  • Sgiliau ac Addysg (hyfforddiant, ysgolion, cyflogadwyedd)
  • Iechyd a Lles (iechyd corfforol a meddyliol, lles cymunedol)

I ddarganfod beth mae bod ar y Bwrdd Cymdogaeth yn ei olygu ac i gofrestru eich diddordeb, cliciwch yma. Datganiadau o ddiddordeb yn cau ar 31 Gorffennaf.

Bydd Rhaglen 'Balchder Bro' Llywodraeth y DU yn gweld hyd at £5 biliwn yn cael ei roi i bron i 250 o ardaloedd ledled y DU. Bydd Tredegar yn derbyn £20 miliwn o gyllid a chefnogaeth dros y 10 mlynedd nesaf i wneud gwelliannau hirdymor y mae trigolion eisiau eu gweld.

Cynigiodd Cyngor Blaenau Gwent Ddyffryn Sirhywi fel y gymdogaeth i dderbyn y cyllid yn seiliedig ar feini prawf Llywodraeth y DU.

Fel Cadeirydd, bydd Matt yn helpu i sefydlu ac arwain y Bwrdd Cymdogaeth, gan sicrhau bod trigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a lleisiau o Dredegar yn cael eu cynrychioli wrth i gynlluniau symud ymlaen.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Stephen Thomas:

"Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y rhaglen Balchder Bro ac, ynghyd â holl gynghorwyr Tredegar, hoffwn longyfarch Matt ar ei benodiad. Y peth gorau am y rhaglen hon yw bod sut mae'r arian yn cael ei wario wir yn nwylo'r gymuned drwy'r Bwrdd Cymdogaeth, a fydd yn nodi'r blaenoriaethau ac yn cymeradwyo prosiectau. Fel hyn gall gael ei ddefnyddio ar beth sydd wir yn bwysig i bobl leol.

"Bydd cyfranogiad cymunedol ehangach yn allweddol ac unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd y bwrdd yn ymgysylltu â thrigolion i helpu i lunio cynlluniau’r dyfodol, a byddwn yn annog y gymuned gyfan i gymryd rhan."

Dywedodd Nick Smith AS:

"Rwy'n falch iawn fod y Parchedig Matt Davis wedi'i benodi i gadeirio'r Bwrdd Cymdogaeth Balchder Bro. Mae Matt yn rhan werthfawr o gymuned Tredegar ac mae ganddo angerdd gwirioneddol am y dref a'i dyfodol. Mae'r buddsoddiad hwn o £20 miliwn gan Lywodraeth Lafur y DU yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gefnogi prosiectau y mae pobl leol eisiau eu gweld.

"Beth sy'n arbennig o bwysig yw y bydd penderfyniadau gwario’n cael eu gwneud gan y gymuned ei hun, trwy'r Bwrdd Cymdogaeth. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â'r sgiliau, y profiad a'r brwdfrydedd i helpu i lunio dyfodol Tredegar i ystyried rhoi eu hunain ymlaen. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud y gorau o'r cyllid hwn a chreu gwelliannau a fydd yn cael eu teimlo am flynyddoedd lawer i ddod."

Gallwch ddilyn y rhaglen Balchder Bro – Tred'2036 – ar Facebook ac Instagram nawr.