Mae partneriaid, rhanddeiliaid ac arbenigwyr lleol ledled Gwent wedi cymryd rhan yn yr ail mewn cyfres o weithdai cyd-ddylunio i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RhEGau) ledled y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Blaenau Gwent - mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phartneriaid rhanbarthol - mae'r rhaglen RhEGau, gyda chefnogaeth y Gronfa Rhwydweithiau Natur, yn datblygu fframwaith a rennir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i lywio adferiad natur, cryfhau gwytnwch yn erbyn newid hinsawdd a chyflawni manteision ehangach i gymunedau a thirweddau.
Mae'r gweithdai diweddar yn adeiladu ar lwyddiant gweithdai blaenorol, a oedd yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ecolegol sy'n sail i fapio’r rhwydwaith. Mae'r ail weithdy hwn yn ehangu'r ffocws i archwilio sut y gall gwasanaethau ecosystemau, fel rheoleiddio llifogydd, storio carbon, hamdden a bioamrywiaeth, helpu i siapio dyluniad y rhwydwaith a siapio’r hyn a gyflawnir ar lawr gwlad.
Mae RhEGau wedi'u cynllunio fel rhwydweithiau cysylltiedig o gynefinoedd sy'n cefnogi ecosystemau gwydn, gweithredol. Maent yn nodi ardaloedd craidd o gynefin o ansawdd uchel ochr yn ochr â pharthau adfer natur cyfagos, gan helpu i lywio prosesau rheoli tir, penderfyniadau cynllunio, a buddsoddiad ar raddfa tirwedd.
Cafodd cyfranogwyr gyfle i ymgysylltu â:
- Chanfyddiadau gwaelodlin o'r Dadansoddiad Gwasanaethau Ecosystem (DGE)
- Pwysau allweddol sy'n effeithio ar natur, adnoddau naturiol a gwasanaethau ecosystem ar draws tirweddau yng Ngwent
- Drafftio ffiniau a mapio RhEG, gan gynnwys pwyntiau penderfynu allweddol
- Sesiynau rhyngweithiol wedi'u cynllunio i gofnodi gwybodaeth a blaenoriaethau lleol
Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:
"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y byd amgylcheddol yn newid. Mae'r prosiect hwn yn mabwysiadu dull cydweithredol sy’n seiliedig ar le sy'n dwyn ynghyd ddata ecolegol, mewnwelediad rhanddeiliaid ac arbenigedd lleol i gyflawni atebion ymarferol ar gyfer adfer natur yng Ngwent. Mae hefyd yn helpu i lywio atebion posibl i wneud cymunedau'n fwy gwydn i heriau hinsawdd fel llifogydd. Mae Gwent yn rhanbarth Marmot, sydd wedi ymrwymo i ddylunio amgylcheddau sy'n cefnogi cynaliadwyedd ac yn hyrwyddo tegwch iechyd."
Nodyn:
Cefnogir y prosiect gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur a ddarperir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae grant o £250,000 wedi'i ddyfarnu i Gyngor Blaenau Gwent i arwain gwaith mapio RhEG ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Gwent.
Mae'r prosiect RhEGau yn parhau i ddarparu cyfle gwerthfawr i randdeiliaid helpu i siapio sut mae adferiad natur yn cael ei gynllunio a'i gyflawni ar draws Gwent, gan sicrhau bod gwybodaeth, blaenoriaethau a heriau lleol yn cael eu hadlewyrchu wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
