Mae Heddlu Bach Ysgol Gynradd Ebwy Fawr wedi helpu i sicrhau gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd yn eu hysgol.
Ar ôl siarad â ni a'r heddlu lleol am eu pryderon ynghylch parcio yn ystod amseroedd gollwng a chasglu, gwnaethom drefnu bolardiau newydd i atal parcio ar y palmant. Bydd hyn yn helpu gwelededd ac yn creu llwybr mwy diogel i ddisgyblion a theuluoedd sy'n teithio i ac o’r ysgol.

Gweithiodd yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, y Cynghorydd Sue Edmunds, a'r heddlu lleol yn agos gyda'r disgyblion ar eu nod.
Meddai'r Cynghorydd Edmunds: "Roedd yn wych cwrdd â disgyblion yr Heddlu Bach a chlywed eu pryderon. Siaradon nhw’n hyderus am y materion sy'n effeithio ar ddiogelwch ffyrdd o amgylch eu hysgol ac roedden nhw eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned. Mae'r canlyniad yn dangos pa mor bwysig yw gwrando ar bobl ifanc. Mae eu harsylwadau wedi helpu i nodi ateb ymarferol a fydd yn gwella diogelwch i bawb sy'n defnyddio'r ardal."
Mae Heddlu Bach yn fenter gan Heddlu Gwent ar gyfer disgyblion rhwng 9 ac 11 oed, ac mae'n cynnig cyfle gwirfoddoli hwyl, rhyngweithiol ac addysgol sy'n annog pobl ifanc i chwarae rhan weithredol wrth wella eu cymunedau a hyrwyddo diogelwch yn eu hamgylchedd ysgol.
Meddai PC Cerith Jones:
"Rydyn ni’n hynod falch o ddisgyblion yr Heddlu Bach yn Ysgol Gynradd Ebwy Fawr, y mae eu brwdfrydedd, eu penderfyniad a'u hymrwymiad i wella diogelwch ar y ffyrdd wedi helpu i gyflawni'r newidiadau cadarnhaol hyn.
"Nododd y disgyblion bryderon ynghylch parcio a gwelededd ar amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol ac roeddent yn gallu mynegi'n glir yr effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ddiogelwch eu cyd-ddisgyblion, teuluoedd a thrigolion lleol. Mae eu parodrwydd i ymgysylltu â phartneriaid a chwilio am atebion yn dangos yn union beth yw nod Heddlu Bach – grymuso pobl ifanc i chwarae rhan weithredol wrth wneud eu cymunedau yn fwy diogel.
"Trwy weithio ar y cyd â'r ysgol, y Cyngor a thimau plismona lleol, rydym wedi gallu cefnogi'r disgyblion i droi eu pryderon yn weithredu ystyrlon. Bydd gosod y bolardiau newydd yn gwella gwelededd, yn atal parcio anniogel ac yn creu amgylchedd mwy diogel i bawb sy'n teithio i ac o’r ysgol.
"Mae hon yn enghraifft ardderchog o sut y gall gwaith partneriaeth effeithiol ac ymgysylltu â'r gymuned gyflawni canlyniadau go iawn. Pan fydd yr heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion a thrigolion yn gweithio gyda'i gilydd, gallwn nodi problemau, datblygu atebion ymarferol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelwch a lles ein cymunedau.
"Dylai disgyblion yr Heddlu Bach fod yn hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. Mae eu cyfraniad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar bobl ifanc a chydnabod y rôl werthfawr y gallant ei chwarae wrth siapio cymunedau mwy diogel i bawb."