Gŵyl y Banc Pasg 2024

Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Iau, 28 Mawrth 2024 a bydd yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024.Gellir cysylltu â’r gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau ar y rhif arferol, 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd y gwasanaeth Larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch larymau llinell fywyd Piper y tu allan i oriau swyddfa i 0300 0035367.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 5pm ddydd Iau, 28 Mawrth 2024 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024. Yn ystod cyfnod y Pasg, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Brys ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau
Os ydych yn dymuno gwneud taliad, mae llinell dalu awtomataidd 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan.

Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan gynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Rhowch eich gwastraff a’ch ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu. Cofiwch dorri unrhyw eitemau cardbord mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu.
Bydd Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer.

Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill 2024. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 2 Ebrill 2024 drwy apwyntiad yn unig.

Hybiau Cymunedol
Bydd Hybiau Cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn llyfrgelloedd canol tref ar gau ddydd Gwener, 29 Mawrth a dydd Llun, 1 Ebrill 2024. Maent yn ailagor fel arfer ddydd Mawrth, 2 Ebrill - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus!