Eiddo yng nghanol trefi yn elwa ar arian 'Trawsnewid Trefi'

Mae tri eiddo yng nghanol trefi Blaenau Gwent wedi cael eu hadnewyddu gyda chymorth Grant Creu Lleoedd 'Trawsnewid Trefi'.

Mae Homestead Café a Classic Fish Bar ym Mrynmawr, a swyddfeydd Positif Care yn Abertyleri, i gyd yn edrych yn wych diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Blaenau Gwent.

Nod y cyllid yw helpu pobl i wella eu busnesau, cefnogi cyflogaeth leol a chyfrannu at wella ac adfywio strydoedd mawr y fwrdeistref sirol.

Homestead Café, Bailey Street, Brynmawr

Mae'r bwyty hwn ar sgwâr y dref ym Mrynmawr wedi'i drawsnewid yn dilyn rhaglen helaeth o waith a oedd yn cynnwys to newydd (gan gynnwys paneli ffotofoltäig a thechnoleg batri), rendr inswleiddio ar dair ochr yr adeilad a ffenestri newydd a osodwyd yn unol â chymeriad gwreiddiol yr adeilad.

Classic Fish Bar, Bailey Street, Brynmawr

Mae'r siop sglodion boblogaidd wedi gwella'n sylweddol diolch i do newydd sy'n cynnwys paneli ffotofoltäig a thechnoleg storio batri; gwaith rendro ac ailosod blaen y siop ar y tu blaen a'r cefn. Mae mân waith hefyd wedi'i wneud i'r gofod mewnol – gan gynnwys gosod teils a goleuadau gwell.

Positif Care, Abertillery

Mae'r eiddo hwn, a oedd gynt yn wag, wedi elwa ar flaen siop dwbl newydd, arwyddion newydd, rendr allanol, ffenestri newydd ar y llawr uchaf a gwaith ailosod to sy'n cynnwys paneli ffotofoltäig. Bellach, mae'r eiddo'n gweithredu fel swyddfa/canolfan i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal preswyl preifat i blant.

Gall y grant dalu hyd at 60% o gyfanswm cost y prosiect, gyda'r ymgeisydd yn talu gweddill y costau.