Enillodd Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mrynmawr wobr Arian y Foundation of Community Engagement.
Dywedodd Mrs Donna Hawkins, Arweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau, “Yn y Santes Fair, rydyn ni wir yn credu ei bod hi’n cymryd cymuned i fagu plentyn, ac rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb yn ein teulu ysgol. Mae ennill y wobr hon yn hynod bwysig i ni gan ei fod yn cydnabod gwaith caled cymuned yr ysgol gyfan. Mae fframwaith Calon y Gymuned wedi bod yn gefnogaeth enfawr wrth i ni barhau â’n taith fel Ysgol Fro.”
Enillodd Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yng Nglynebwy wobr Efydd y Foundation of Community Engagement.
Dywedodd Deborah Herald, Pennaeth, “Roeddem yn falch iawn ein bod wedi cael gwahoddiad i'r gynhadledd ieuenctid gyntaf erioed a gynhaliwyd gan y Foundation of Community Engagement yn dilyn ein gwobr Efydd. Rhannodd cynrychiolwyr ein Senedd Ysgol eu barn a chydweithio ag eraill ar yr hyn y mae cymuned yn ei olygu iddynt a beth yw rôl yr ysgol wrth adeiladu a chefnogi’r gymuned honno.
Fel pennaeth ysgol y mae ei dalgylch yn cwmpasu Blaenau Gwent GYFAN, rwy’n ymwybodol iawn o faint y gwaith dan sylw ac mae’r wobr Efydd hon yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Mae’r fframwaith a ddarparwyd gan Sue Davies yn helpu i arwain cynllunio datblygiad ysgol a gyda gwaith caled parhaus a chefnogaeth holl staff yr ysgol, byddwn yn parhau i ddatblygu ac ymgorffori arferion sy’n ein helpu i symud tuag at fod yn ysgol sydd wrth galon ein cymuned.”
Argymhelliad olaf yr adroddiad oedd gwrando ar ein dysgwyr felly dyma safbwynt un o’r mynychwyr, Courtney Collyer. Dywedodd Courtney “Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a oedd hefyd yn addysgiadol iawn. Roeddwn i wrth fy modd bod yn rhan pencadlys ffansi’r stadiwm yn Abertawe. Byddwn yn dweud mai'r brownis oedd y rhan orau o'r diwrnod, ond mewn gwirionedd roedd yn braf cael fy amgylchynu gan oedolion a oedd yn gwrando ar y plant mewn gwirionedd. Roedd yn braf cael fy nghlywed.”
Enillodd Ysgol Gynradd Willowtown yng Nglynebwy Wobr Calon y Gymuned.
Dywedodd Melanie Evans, Pennaeth, “Mae ein hysgol yn ymfalchïo yn y perthnasoedd cryf sydd wedi’u meithrin gyda’n teuluoedd ac yn wir ein cymuned. Cychwynnodd Willowtown ar daith y ‘Foundation of Community Engagement’ yn dilyn cyflwyniad angerddol ac ysbrydoledig gan y sylfaenydd Sue Davies mewn cyfarfod Prifathrawon.
Wrth i ni edrych ar y pileri ar gyfer cydnabyddiaeth daeth yn amlwg yn gyflym iawn ein bod eisoes ar ein ffordd! Fel ysgol, fe wnaethom achub ar y cyfle wedyn i ddathlu’r holl weithgareddau/cyfleoedd bendigedig oedd ar gael a/neu a oedd yn digwydd yn ddyddiol yn Willowtown. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys ein Gwerthoedd Misol, prosiect Cynefin, Big Bocs Bwyd, gweithdai Croeso Willowtown, Gwirfoddolwyr Rhieni, PTFA, prosiectau Pontio’r Cenedlaethau, rhaglenni Lluosi a Roots of Empathy i enwi dim ond rhai!
Mae hefyd wedi ein galluogi i nodi ein cryfderau a’n camau nesaf mewn Ymgysylltu â’r Gymuned fel y gallwn barhau a ffynnu ar ein taith. Mae wedi bod yn ddull ysgol gyfan o gyflawni ein gwobr, ond hoffwn roi ‘Diolch’ arbennig i’n Harweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau yn Willowtown – Mrs Hughes.
Ein datganiad gweledigaeth yw ‘We are the vibrant beating heart of the community[GA1] ’ ac ni allwn fod yn fwy balch o weld hyn yn dod yn fyw trwy ein gwaith. #WILLOWTOWNWAY.”
Mae'r Foundation for Community Engagement yn annog ac yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i weithio gyda'i gilydd tuag at amcanion cyffredin, i ganolbwyntio ar anghenion pobl, ar bob cam o'u bywydau.
Cynhaliodd y Foundation of Community Engagement y gynhadledd ymgysylltu â’r gymuned gyntaf a anelwyd at bobl ifanc ar draws Cymru ar 12 Gorffennaf, 2024.
Roedd y diwrnod yn gyfle anhygoel i’n pobl ifanc fynegi barn, cydweithio, ystyried hoffterau a diddordebau, a rhannu pryderon am y ffordd y mae eu cymuned yn cael ei chefnogi gan ysgolion, a sut y gall eu cymunedau lleol gefnogi ysgolion.
Cyfrannodd disgyblion o Ysgol Penycwm, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Brynteg, Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Idris Davies, Ysgol Hen Felin, Ysgol Aberdaugleddau ac Ysgol Gatholig Bendigaid Carlo Acutis eu meddyliau a’u syniadau a fydd yn cael eu rhannu ar draws Cymru.
[GA1]Have they a Welsh translation for their vision or should this stay in English? - if you want it translated I would suggest - Ni yw curiad calon bywiog ein cymuned