Cofio Tad Meteoroleg

Bydd Syr David Brunt KBE FRS, a adnabyddir fel Tad Meteoroleg, yn cael ei goffáu ym Mlaenau Gwent yr wythnos hon. Bydd plac glas a murlun yn cael eu dadorchuddio heddiw yn Llanhiledd, Abertyleri.

Symudodd teulu Brunt i Lanhiledd yn 1896. Yn wreiddiol, gweithwyr amaethyddol oeddent o Benffordd-las yn Sir Drefaldwyn, ond fe wnaethant symud i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ym mhyllau glo’r cwm. David oedd yr ieuengaf o naw o blant.

Cafodd ei addysg gynnar yn y Gymraeg, felly mae’n rhaid bod symud i Lanhiledd yn 10 oed a chael ei addysgu yn Saesneg yn her sylweddol. Fodd bynnag, llwyddodd i oresgyn hyn, gan sicrhau’r lle cyntaf yn ei arholiadau mynediad ac ennill ysgoloriaeth i’r ysgol ganolradd yn Abertyleri. Parhaodd â’i addysg yn lleol cyn mynd ymlaen i’r brifysgol. Yn fathemategydd rhagorol, cafodd David ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.

Ymunodd ag adran feteorolegol y Peirianwyr Brenhinol, lle chwyldrôdd sut y rhagwelir y tywydd trwy ei symud o ddulliau seiliedig ar arsylwi i ddull wedi’i seilio ar egwyddorion mathemategol. Yn ddiweddarach, daeth yn feteorolegydd i’r Llu Awyr. A thrwy’r gwaith hwn, fe’i hystyrir yn dad dulliau modern o ragweld y tywydd.

Cyfrannodd at ddealltwriaeth a defnydd ehangach o amledd Brunt–Väisälä, sy’n cyfrifo arnofedd, ac roedd y gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer deall sefydlogrwydd atmosfferig, eigioneg, astroffiseg, peirianneg a geoffiseg.

Etholwyd David yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 1939 a dyfarnwyd Medal Frenhinol iddo gan y gymdeithas yn 1944. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Ffisegol y Gymdeithas Frenhinol rhwng 1948 ac 1957.

Gwasanaethodd hefyd fel llywydd y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol o 1942 i 1944, gan dderbyn y Wobr Buchan gan y gymdeithas ac wedyn, yn 1947, Medal Aur Symons am waith nodedig ym maes y gwyddorau meteorolegol.

Roedd hefyd yn llywydd y Gymdeithas Ffisegol o 1945 i 1947 ac enwyd Silff Iâ Brunt yn yr Antarctig er anrhydedd iddo, gan gydnabod ei rôl wrth gychwyn alldaith y Gymdeithas Frenhinol yno yn 1955.

Gwnaed David yn Farchog Baglor yn 1949 a’i benodi’n Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (KBE) yn 1959.

Dadorchuddiwyd y plac yn 7 Stryd Fawr—cartref cyntaf teulu Brunt yn Llanhiledd—gan ei or-nith, Rosalyn Carley. Dywedodd Rosalyn, “Daeth Hen Ewythr David i Lanhiledd pan oedd yn 10 oed a daeth ei ddisgleirdeb mewn mathemateg yn amlwg yn fuan. Aeth ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn mathemateg o Brifysgol Aberystwyth, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon i sefydlu gyrfa mewn meteoroleg, pwnc yr oedd yn angerddol iawn amdano. Rhoddodd ragweld y tywydd ar sail wyddonol am y tro cyntaf ac o ganlyniad roedd yn wir yn haeddu cael ei alw’n ‘Dad Meteoroleg’. Rwy’n teimlo’n falch iawn, ar ran fy chwaer a minnau, o fod yn dadorchuddio’r plac glas hwn er anrhydedd i Syr David Brunt.”

Mae’r murlun, a grëwyd gan Andy O’Rourke o Malarky Arts, wedi’i leoli mewn safle amlwg ar Heol Fasnachol yn Llanhiledd. Mae’n archwilio gwasanaeth milwrol a gwaith gwyddonol David, a’i gefnogaeth i archwilio’r Antarctig. Ychwanegodd ei hen, hen nith, Elinor Tomlin, “Mae fy chwaer a minnau’n hynod falch o’n hen ewythr, Syr David Brunt, am ei gyflawniadau gwyddonol niferus, y mae tri ohonynt yn ymddangos yn y murlun anhygoel hwn: hafaliad Brunt-Väsälä, ei gysylltiad â’r RAF yn y rhyfel, a Silff Iâ Brunt.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet dros yr Economi a Lle, “Mae digwyddiadau heddiw yn dathlu cyflawniadau rhagorol athrylith mathemategol a ddaeth o’n cymuned ni. Efallai fod cyflawniadau Syr David wedi bod yn guddiedig rhag llawer ohonom hyd heddiw ond rydym yn gobeithio, trwy ein hymdrechion, y bydd yn cael ei werthfawrogi’n eang ac yn ysbrydoliaeth i’n cenedlaethau iau.”

Dywedodd Derek Brockway, dyn tywydd y BBC, “Rydyn ni i gyd yn gwybod am Robert Fitzroy, y dyn a sefydlodd y Swyddfa Dywydd yn 1854, ond fe helpodd Syr David Brunt—a dreuliodd ran o’i blentyndod yma yn Llanhiledd—i lunio rhagolygon tywydd modern hefyd! Aeth ymlaen i ddod yn un o brif wyddonwyr atmosfferig y byd. Mewn gwirionedd, roedd ei waith mor bwysig wrth roi rhagolygon ar sail wyddonol briodol nes iddo ddod yn adnabyddus fel ‘tad meteoroleg’.

“Fel cyd-feteorolegydd, gallaf ddweud yn ddiogel, bob tro y byddwn yn rhedeg model cyfrifiadurol modern neu’n dadansoddi sefydlogrwydd yr atmosffer, ein bod yn sefyll ar ysgwyddau’r cawr hwn o Lanhiledd.

“Bydd dadorchuddio’r plac glas hwn yn diogelu ei etifeddiaeth ac yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod yn union faint y newidiodd bachgen lleol sut mae’r byd i gyd yn gweld y tywydd.”

Dywedodd yr artist Andy O’Rourke o Malarky Arts, “Pan gefais y comisiwn gyntaf, cefais fy swyno gan gyflawniadau Syr David. Drwy’r murlun, roeddwn i eisiau dathlu ei waddol mewn ffordd weledol sy’n dod â’i stori’n fyw ac yn ei gwneud yn hygyrch i bobl o bob oed.”