Datganiad - Lleihau capasiti yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri

Cyfarfu'r Cyngor Llawn heddiw i wneud penderfyniad ar ailstrwythuro arfaethedig Cymuned Ddysgu Abertyleri. Roedd y cynnig yn cynnwys cau Campws Heol Roseheyworth a throsglwyddo disgyblion i gampysau cynradd eraill y Gymuned Ddysgu.

Cynigiwyd y newidiadau oherwydd gostyngiad yn nifer y disgyblion a phwysau cyllidebol cynyddol.

Pleidleisiodd y Cyngor 16 o blaid y cynnig a 14 yn erbyn y cynnig, sy’n golygu bod y cynnig wedi'i gymeradwyo. Disgwylir i'r trefniadau newydd fod ar waith erbyn mis Medi 2027.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Ar ôl llawer o ystyriaeth ac ymgynghori, cymeradwywyd y cynnig i leihau nifer y safleoedd cynradd o dri i ddau yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri heddiw. Rydym yn cydnabod y teimladau a'r pryderon a fynegwyd gan rai aelodau o'r gymuned dros y misoedd diwethaf, ac rwyf am ddweud bod hwn yn benderfyniad anodd iawn, na chafodd ei gymryd yn ysgafn.

"Roeddem yn wynebu'r realiti llym iawn na allai'r Gymuned Ddysgu barhau gyda'r gostyngiad yn nifer y disgyblion a'r capasiti dros ben sylweddol ar draws y cyfnod cynradd. Mae pwysau ariannol cynyddol yn bygwth cynaliadwyedd hirdymor yr ysgol ac mae Estyn a Gwasanaeth Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol yn cytuno mai'r penderfyniad a wneir heddiw yw'r penderfyniad cywir os ydym am ddiogelu safonau addysgol, cefnogi sefydlogrwydd ariannol, a sicrhau dyfodol y Gymuned Ddysgu.

"Fe wnaethom ystyried sawl cynnig amgen a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad ond yn anffodus nid oedd yr un o'r rhain yn datrys y diffyg ariannol hirdymor sy'n wynebu'r Gymuned Ddysgu.”

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu barn a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phawb i sicrhau pontio llyfn a chefnogol.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad i'r Cyngor yn llawn yma.