Dal dyn o Dredegar ar deledu cylch cyfyng y Cyngor yn gadael gwastraff mewn cilfan gyhoeddus

Mae dyn o Dredegar wedi cael dirwy a’i orchymyn i dalu costau a iawndal am adael bagiau siopa yn llawn gwastraff cŵn mewn cilfan gyhoeddus.

Cafwyd Andrew Mumford o St James Way Terrace yn euog yn gyntaf yn Llys Ynadon .Cwmbrân ym mis Tachwedd 2023 am y drosedd dan Adran 33 (1) (a) Deddf Diogelu’r Amgylchedd (tipio anghyfreithlon). Gwnaeth gais i ailagor yr achos, ond gwrthodwyd hyn gan fod yr Ynadon yn fodlon iddo gael ei hysbysu am ddyddiad ac amser cywir yr achos llys.

Roedd ffilm teledu cylch cyfyng wedi dangos unigolyn yn gadael pedwar bag siopa yn llawn gwastraff ci (gwastraff a reolir) mewn cilfan yn Thomas Ellis Way yn Nhredegar ym mis Mehefin 2023. Roedd y cerbyd wedi ei gofrestru i Mumford. Fe wnaeth gyfaddef y drosedd a chafodd Hysbysiad Cosb Sefydlog y gwnaeth wedyn fethu ei thalu.

Fe’i cafwyd yn euog wedyn gan y llys a chafodd ddirwy o £600 gyda gorchymyn iawndal o £156 a £916.62 o gostau – cyfanswm o £1672.62.