Cyngor Blaenau Gwent yn adnewyddu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn

Cytunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent heddiw i adnewyddu ei Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer ymarfer cŵn a glanhau baw cŵn ar dir ledled y fwrdeistref. Cyflwynwyd y Gorchymyn blaenorol yn 2019 am gyfnod o 3 blynedd ac roedd i ddod i ben ddiwedd mis Hydref.

Nod y Gorchymyn yw helpu perchnogion i ymddwyn yn gyfrifol mewn ardaloedd a gaiff eu mwynhau gan bobl eraill. Mae’n amlinellu gofynion a chyfyngiadau ar berchnogion cŵn ac mae’n sicrhau y gellir defnyddio mannau agored a gaiff eu rhannu ar gyfer holl breswylwyr Blaenau Gwent eu mwynhau.

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i weithredu hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau a ddaw o fewn Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Bydd methiant i dalu’r hysbysiad cosb sefydlog yn golygu y bydd yr awdurdod yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at uchafswm dirwy lefel 3 ar y raddfa sylfaenol, sy’n £1,000 ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunnigham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd:
“Bydd y Gorchymyn a gafodd ei adnewyddu yn parhau i helpu cadw ein mannau agored cymunedol a thir penodol yn rhydd o faw cŵn. Mae mwyafrif perchnogion cŵn yn gyfrifol iawn ac yn cadw at unrhyw reoliadau am eu cŵn. Bydd parhau i roi hysbysiadau cosb sefydlog i berchnogion cŵn anghyfrifol sy’n methu glanhau ar ôl eu cŵn yn helpu i gadw ein cymunedau yn ddiogel a glân”.

Tir lle mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Agored yn weithredol:
• Bydd agwedd baw cŵn y Gorchymyn yn parhau i fod yn weithredol ar gyfer yr holl dir sy’n agored i’r aer ac y mae gan y cyhoedd hawl i gael mynediad iddo neu y caniateir iddynt gael mynediad iddo o fewn ardal Blaenau Gwent.

• Mae’r ardaloedd gwahardd cŵn ac ardaloedd cŵn ar dennyn mewn grym mewn rhannau penodol o dir a amlinellir yn y cynlluniau lleoliad.