Amhariadau i Wasanaethau'r Cyngor oherwydd tywydd poeth

Oherwydd y tywydd poeth presennol a'r rhybuddion sydd ar waith mae rhai gwasanaethau wedi cael eu haddasu. Diolch am eich dealltwriaeth wrth i ni gefnogi ein staff yn ystod yr amodau hyn.

Gwastraff ac Ailgylchu

Oherwydd y tywydd poeth presennol a'r rhybuddion sydd ar waith, bydd ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau eu rowndiau yn gynt nag arfer.

Bydd criwiau allan ar yr amser cynharach o 6am yfory ac am y dyddiau nesaf – felly gwnewch yn siŵr bod eich cynwysyddion ac unrhyw eitemau gwastraff swmpus allan yn barod. Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod ein criwiau'n aros yn hydradedig ac yn gwisgo amddiffyniad rhag yr haul.

Bydd ein canolfannau ailgylchu yn gweithredu oriau agor llai, bydd y safleoedd ar agor rhwng 8yb ac 1yp ar eu diwrnodau arferol.

Cofiwch, efallai y bydd rhywfaint o aflonyddwch, os bydd eich casgliad yn cael ei golli, byddwn yn dychwelyd cyn gynted ag y gallwn.

Cau Ysgolion

Mae pob lleoliad ysgol wedi symud i ddysgu ar-lein

Pe byddai ysgol ar gau e.e. oherwydd llifogydd/tywydd gwael, caiff y manylion a’r rheswm ynghyd â gwybodaeth gyswllt berthnasol ei rhoi islaw. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/cau-ysgolion/

Pe byddai ysgol ar gau oherwydd tywydd gwael, gall ysgolion yn awr ddarparu dysgu cyfunol/ar-lein, holwch ysgol eich plentyn i gael mwy o fanylion.

Cyswllt Mecanyddol

Byddwch yn gwybod bod y cyswllt mecanyddol ar gau ar hyn o bryd oherwydd problemau a achosir gan y gwres eithafol. Byddwn yn cynghori pan fydd yn ailagor. Diolch am eich dealltwriaeth.

Sesiwn Ieuenctid

Diweddariad Pwysig – Cau’r Gwasanaeth 
Helo pawb,
Oherwydd y rhybudd tywydd coch a’r gwres eithafol, bydd pob sesiwn ieuenctid wyneb yn wyneb yn cau o 3pm ddydd Mawrth, ac i gyd drwy ddydd Mercher a dydd Iau. Rydym yn gobeithio ailagor o ddydd Gwener, ond byddwn yn eich hysbysu yn ôl sut mae’r tywydd yn datblygu.
Er nad yw’r sesiynau’n rhedeg, mae’r gweithwyr ieuenctid dal yma i chi 💬
Gallwch gysylltu â ni drwy ffôn neu e-bost os ydych angen cefnogaeth neu eisiau sgwrs.
🌞 Cadwch yn Ddiogel yn y Gwres Gall y tywydd yma fod yn anodd, felly gofalwch amdanoch chi eich hun:
• Yfwch ddigon o ddŵr 💧
• Aroswch yn y cysgod lle bo modd 🌳
• Ceisiwch osgoi bod allan yn yr oriau poethaf
Mwy o wybodaeth yma:
💊 Meddyginiaethau a’r Gwres Gall tywydd poeth effeithio ar sut mae rhai meddyginiaethau’n gweithio, felly byddwch yn ofalus ychwanegol os yw hyn yn berthnasol i chi.
Darllenwch fwy yma:
Gofalwch amdanoch chi eich hun a’ch gilydd 💛
Gawn ni weld chi eto’n fuan!