Ydych chi erioed wedi meddwl am yrfa mewn gofal?

Mae gweithio mewn gofal yn yrfa i ymfalchïo ynddi

A ydych yn edrych am yrfa werth chweil? Ydych chi’n meddwl y gallwch ychwanegu gwerth i fywydau pobl eraill? Ydych chi erioed wedi meddwl am yrfa mewn gofal? Hoffem glywed gennych!

Rydym yn recriwtio Cymhorthwyr Gofal i weithio ar draws ein gwasanaethau darparydd mewn ystod o osodiadau.

- Tŷ Augusta – gwasanaeth seibiant ar gyfer oedolion gydag anabledd dysgu
- Gofal Cartref – gofal yn y cartref, cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain
- Byw â Chymorth – cefnogi unigolion gydag anabledd dysgu i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain
- Gofal Ychwanegol – cefnogi unigolion yn eu cartrefi eu hunain o fewn y ddarpariaeth Gofal Ychwanegol
- Cwrt Mytton – cefnogi unigolion hŷn sy’n byw mewn cartref gofal preswyl

A yw hyn yn swnio fel y cyfle delfrydol i chi? Os felly, anfonwch e-bost at recruit.bgcbc@blaenau-gwent.gov.uk, a byddwn yn trefnu i reolwr gysylltu â chi.