Llesiant Cyflogeion

Iechyd Galwedigaethol

Mae gan wasanaeth Iechyd Galwedigaethol y Cyngor drosolwg o’n llesiant staff ac mae’n darparu gwasanaethau arbenigol i’r Cyngor, rheolwyr ac unigolion. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau Datblygu Sefydliadol neu’r fewnrwyd* neu gan eich rheolwr.

Rhaglen Cymorth Cyflogeion

Mae gan staff fynediad i gwnselwyr ac arbenigwyr gwybodaeth annibynnol gyda chymhwyster proffesiynol, sy’n brofiadol wrth helpu pobl i ddelio gyda phob math o faterion ymarferol ac emosiynol tebyg i lesiant, materion teulu, perthnasoedd, rheoli dyled, materion gweithle, a llawer mwy. Mae manylion sut i gael mynediad i’r gwasanaeth ar gael ar dudalennau Datblygu Sefydliadol ar y fewnrwyd* neu gan eich rheolwr.

Bwletin Dydd Mercher Llesiant

Bob wythnos caiff bwletin Dydd Mercher Llesiant ei gylchredeg i bob aelod o staff. Ei fwriad yw cefnogi staff, p’un ai ydynt yn gweithio ar y rheng flaen, yn y cartref, yn y swyddfa neu’n gweithio mewn ysgol. Mae llesiant staff yn hollbwysig a bwriedir i’r bwletin roi ciplun o’r adnoddau sydd ar gael.

Aelodaeth Life

Life yw’r cynllun aelodaeth corfforaethol ar gyfer holl gyflogeion llawn-amser a rhan-amser Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’n eich galluogi i ddefnyddio’r cyfleusterau mewn tri chanolfan chwaraeon ym Mlaenau Gwent a ddarperir gan Hamdden Aneurin ar bris rhatach.

Iechyd a Diogelwch

Gweithredu i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant yr holl gyflogeion a phersonau eraill y gall ei weithrediadau fod yn effeithol arnynt, drwy ddarparu amodau gwaith diogel ac amgylchedd gwaith iechyd a diogel.

 

* Dylid nodi fod angen mynediad i rwydwaith y Cyngor yn ymweld â’r wybodaeth hon. Trafodwch gyda’ch Rheolwr os gwelwch yn dda os nad oes gennych fynediad i’r Rhyngrwyd.