Fy Nghyflogaeth

Hunanwasanaeth Cyflogeion

Bydd Fy Ngwybodaeth yn eich galluogi i weld a diweddaru eich data personol ynghyd â gweld eich dalenni cyflog, ffurflenni P60 a gwybodaeth am absenoldeb.

Mae’r porth ar gael o unrhyw ddyfais gyda chysylltiad rhyngrwyd drwy’r ddolen ddilynol https://myinfo-blaenau-gwent.onewales.com neu drwy’r fewnrwyd os ydych yn defnyddio rhwydwaith technoleg gwybodaeth y Cyngor. 

Gadael Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Mae angen i staff sy’n gadael y Cyngor roi’r cyfnod rhybudd dilynol i’w rheolwr:

  • Graddau 1 - 8 (1 mis calendr)
  • Graddau 9 - 11 (2 mis calendr)
  • Swyddogion JNC (3 mis calendr)
  • Graddau Seicolegydd Addysgol dan Hyfforddiant/Cynorthwyol – Soulbury (1 mis calendr)
  • Graddau eraill Soulbury (2 fis calendr)
  • Penaethiaid ysgol (3 mis/Tymor yr Haf – 4 mis)
  • Staff addysgu arall (2 fis/Tymor yr haf – 3 mis)
  • Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol – dan Amodau JNC Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol (2 fis)

Polisïau