Hawlenni Amgylcheddol

Crynodeb o’r Drwydded

Mae’n rhaid i chi gael hawlen amgylcheddol os ydych yn gweithredu gweithgareddau rheoledig penodol o fewn Lloegr a Chymru. Mae gweithgareddau rheoledig yn cynnwys unrhyw weithgarwch a restrir yn Atodlen 1 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd). Rhennir gweithgareddau rhestredig i mewn i dri chategori: Rhan A (1), Rhan A (2) a Rhan B. Rheolir gweithgareddau Rhan A1 gan Gyfoeth Naturiol Cymru (gellir dod o hyd i fanylion cyswllt isod). Rheolir Rhan A (2) a rhan B gan y Cyngor.

Mae’r hawlen amgylcheddol sy’n ofynnol i’ch busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol sydd ynghlwm a’r allyriadau o ganlyniad.

Pwy All Ymgeisio?

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar unrhyw ffurflen benodol a ddarperir gan y rheoleiddiwr, neu ar-lein, ac mae’n rhaid cynnwys gwybodaeth benodol a fydd yn amrywio yn dibynnu ar natur y gweithgareddau a gyflawnir. 

Mae’n rhaid i’r cais ddod oddi wrth weithredwr y cyfleuster rheoledig.

Ar gyfer A (1) ac A (2) ni roddir hawlen amgylcheddol ar weithgareddau rheoledig oni bai bod unrhyw ganiatâd cynllunio gofynnol wedi ei sicrhau a bod gan yr ymgeisydd dystiolaeth o hyn.

A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?

Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau. Mae’n rhaid i’r ffi briodol ddod gyda’r cais am hawlen amgylcheddol.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r drwydded hon

Sut caiff fy Nghais ei Brosesu?

Wedi derbyn y cais bydd y Cyngor yn penderfynu a gafodd ei wneud yn briodol h.y. mae’n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ynghylch y gweithgareddau arfaethedig fel yr amlinellwyd hwy yn y rheoliadau,  y derbyniwyd i ffi briodol sy’n daladwy ar gyfer prosesu’r cais a bod y cais wedi ei wneud i’r rheoleiddiwr cywir.

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Caiff ceisiadau eu hasesu i benderfynu a gawsant eu gwneud yn briodol a darperir cadarnhad i’r ymgeisydd o fewn 10 niwrnod gwaith yn egluro a ystyrir i’r cais gael ei wneud yn briodol  neu beidio. O benderfynu bod y cais wedi ei wneud yn briodol bydd y Cyngor wedyn yn mynd rhagddo i brosesu’r cais i benderfynu a gyflwynir hawlen neu beidio.

Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i’r Cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol o fewn 10 niwrnod, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

Fel arfer mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu’r cais am hawlenni amgylcheddol Rhan B o fewn pedwar mis i ystyried bod y cais wedi ei wneud yn briodol a phum mis a thair wythnos i ystyried a gafodd ceisiadau amgylcheddol A2 eu gwneud yn briodol. Gallai’r graddfeydd amser fod yn hwy os oes angen gwybodaeth ychwanegol.

Gwneud cais ar-lein

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag Adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau am hawlenni amgylcheddol a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Gall ymgeisydd y gwrthodir hawlen amgylcheddol iddo apelio’n ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol, sef i’r Gweinidogion Cymreig yng Nghymru. Mae’n rhaid cofnodi’r apêl heb fod yn hwyrach na chwe mis o ddyddiad y penderfyniad.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag Adran Iechyd yr Amgylchedd


Manylion ar gyfer Ceisiadau Hawlenni Amgylcheddol A1

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk