Rhaglen Cronfa Cymorth Gofalwyr Cymru
Mae’r Gronfa Cefnogi Gofalwyr, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau a grantiau hanfodol i gefnogi gofalwyr di-dâl sy’n wynebu caledi ariannol. Ers 2022, mae’r gronfa wedi rhoi £4.5 miliwn o grantiau, gan helpu dros 15,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru drwy leddfu pwysau ariannol.
Mae mwy o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Gofalwyr ar gaelgael yma.
Rydym yn falch i gyhoeddi bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig Grant ‘untro’ i ofalwyr di-dâl sy’n byw ym Mlaenau Gwent drwy Raglen Cronfa Cymorth Gofalwyr Cymru.
“Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oedran, sy’n rhoi gofal a chymorth di-dâl i berthynas, cyfaill neu gymydog sy’n anabl, yn gorfforol neu’n feddyliol wael, neu y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt.”
Gellir defnyddio’r Grant i brynu eitemau hanfodol unigol i gefnogi’r gofalwr yn eu rôl gofalu hyd at uchafswm o £300.
Beth all y grant dalu amdano?
Gellir defnyddio grant i brynu eitemau hanfodol unigol i gefnogi’r gofalwr yn eu rôl gofalu. Caiff pob cais ei asesu ar sail unigol.
Beth na all y grant dalu amdano?
Ni ellir defnyddio’r grant i brynu eitemau ar gyfer y person sy’n derbyn gofal, mae yn llwyr ar gyfer y gofalwr yn unig.
Categorïau y gellir gwneud cais amdaynt:
1. Grantiau bwyd - £50 fesul person, fesul aelwyd hyd at uchafswm o £300. Darperir talebau archfarchnad ar gyfer Tescto neu Asda.
2. Yr offer tŷ arbed ynni a restrir isod gyda’r uchafswm lwfans cyllid. (Bydd angen sicrhau’r eitemau hyn mewn archfarchnadoedd penodol neu Argos).
Ffrïwr aer – hyd at £100 Microdon £90 Cwcer araf £40
Blancedi gwres £50 Dillad £100 Talebau YC Gregs £50
Oergell neu Rewgell £250 Peiriant Golchi £250 Sychwr Taflu £220
Gallech fod yn gymwys i wneud cais am hyd at 2 eitem o’r 2 categori uchod, hyd at uchafswm o £300 yr aelwyd.
Caiff Ceisiadau Gofalwyr Ifanc eu hystyried a’u hasesu ar sail anghenion unigol.
Caiff eich ffurflen grant ei hasesu gan banel a chewch eich hysbysu am y canlyniad. Gall y broses hon gymryd 4-6 wythnos.
**Os ydych chi wedi derbyn grant yn ddiweddar trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ystod y cyfnod Medi 2024 Mawrth 2025 ni fyddwch yn gymwys i ailddechrau tan fis Medi 2025**
Mae’r Canllawiau Grant a’r Ffurflen Gais ar gael yma:
Grant Cymorth Gofalwyr Canllawiau a Ffurflen Gais
Blaenau Gwent County Borough Council (itouchvision.com)
Os ydych angen help i lenwi’r ffurflen neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Cynrychiolydd Gofalwyr Oedolion
Tania Hooper
Ffôn: 01495 315700 Symudol: 07773 202112
E-bost: tania.hooper@blaenau-gwent.gov.uk
Cynrychiolydd Gofalwyr Ifanc
Cari Rofer
Ffôn: 01495 355584 Symudol: 07896 189412
E-bost: cari.rofer@blaenau-gwent.gov.uk
Gofalu am eich arian
Os ydych yn cael anawsterau ynghylch cyllid yn ystod yr argyfwng costau byw rydym wedi gofyn i un o bartneriaid 3ydd y Sector Adferiad gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth o amgylch hyn. Gweler eu gwybodaeth isod am sut i gael cymorth.
Rydyn ni yma i chi
Ein nod mewn cefnogi gofalwyr
Mae gan ofalwyr rôl hanfodol yn eu cymuned drwy ofalu am rai sydd ag iechyd gwael, sy'n anabl, agored i niwed neu lesg ac i gydnabod hyn anelwn ddarparu'r wybodaeth, gwasanaethau a chefnogaeth y mae gofalwyr eu hangen ar gyfer eu rôl fel gofalwyr.
Pwy sy'n ofalwr?
Gellir diffinio gofalwr fel rhywun sydd, heb dâl, yn rhoi help a chefnogaeth i bartner, plant, perthynas, cyfaill neu gymydog, na allai ymdopi heb eu help. Gallai hyn fod oherwydd oedran, salwch corfforol neu feddyliol, caethiwed e.e. i gyffuriau neu alcohol, neu anabledd.
Ni ddylid drysu'r term gofalwr gyda gweithiwr gofal, neu gymhorthydd gofal, sy'n derbyn tâl am ofalu am rywun.
Fel arfer daw gofalwyr i un o'r tri chategori dilynol:
- Gofalwr Oedolyn: oedolyn yn gofalu am oedolyn arall megis gwr, gwraig, partner, mab, merch, cyfaill neu berthynas.
- Rhiant sy'n Gofalu am Blentyn gydag Anableddau: oedolyn sy'n gofalu am blentyn gyda salwch hirdymor neu anabledd.
- Gofalwr Ifanc: person ifanc dan 18 oed yr effeithir arnynt mewn rhyw ffordd gan yr angen i gymryd lefel o gyfrifoldeb corfforol, ymarferol a/neu emosiynol am ofal person arall, fel arfer yn cymryd lefel o gyfrifoldeb sy'n amhriodol ar gyfer eu hoedran neu ddatblygiad.
Cydnabyddir fod y tri math yma o ofalwr yn grwpiau eang a bod pob gofalwr yn unigolyn ac felly ag anghenion gwahanol ac amrywiol.
Ffocws ar gyfer ein gwaith gyda gofalwyr
Bydd Blaenau Gwent a'i sefydliadau partner yn cydweithio i gyflawni'r canlyniadau dilynol:
- Caiff gofalwyr eu parchu fel partneriaid gofal a bydd ganddynt fynediad i'r gwasanaethau y maent eu hangen i'w cefnogi yn eu rôl gofalu.
- Bydd gofalwyr yn gallu cael bywyd eu hunain wrth ochr eu rôl gofalu.
- Caiff gofalwyr eu cefnogi fel nad ydynt yn cael ei gorfodi i galedi ariannol oherwydd eu rôl gofalu.
- Caiff iechyd a lles gofalwyr eu hyrwyddo i'w cynorthwyo i aros yn feddyliol a chorfforol wael a chael eu hurddas wedi'i barchu.
- Caiff plant a phobl ifanc eu diogelu rhag gofalu amhriodol a chael y gefnogaeth maent ei hangen i ddysgu, datblygu a ffynnu, i fwynhau plentyndod cadarnhaol a defnyddio eu galluoedd i'r eithaf.
Ein Hegwyddorion Allweddol
Yr egwyddorion allweddol sy'n cefnogi Blaenau Gwent a'i sefydliadau partner yw y caiff gofalwyr eu trin gydag urddas a pharch ac y byddwn yn mabwysiadu'r egwyddorion dilynol i gyflawni hyn.
- Cydnabod - byddwn yn cefnogi gofalwyr i gydnabod eu rôl gofalu a'u hannog i dderbyn y gefnogaeth maent ei hangen. Bydd angen i ni hefyd hyrwyddo'r angen i sicrhau fod y sgiliau a'r galluoedd ganddynt i adnabod gofalwyr pan ddeuant i gysylltiad â nhw.
- Grymuso - byddwn yn sicrhau fod gofalwyr yn cael gwybodaeth ystyrlon, cyfoes a hygyrch sy'n ymateb i'w hanghenion unigol ac sydd ar gael yn lleol o fewn eu cymuned i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.
- Cefnogi - byddwn yn cefnogi gofalwyr i ddewis ystod o wasanaethau hyblyg, o ansawdd da, a deilwriwyd i ddiwallu eu hanghenion unigol a fydd yn rhoi'r gefnogaeth maent ei hangen i gadw eu rôl gofalu cyhyd ag y dymunant.
- Hyrwyddo - byddwn yn hyrwyddo gofalwyr fel pobl yn gyntaf, gyda'r un hawliau ag unrhyw un arall i gael dewis a rheolaeth, ansawdd bywyd a'u huchelgais eu hunain, ac ar wahân i rai'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
- Ymgysylltu - byddwn yn sicrhau fod gan ofalwyr llais ac yr ymgynghorir ac y cysylltir â hwy yng nghyswllt y cynllunio a chynllunio'r gwasanaethau sy'n effeithio arnynt a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.
- Ystyried barn gofalwyr - byddwn yn sicrhau fod gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y prosesau asesu a chynllunio gofal fydd yn ystyried eu sylwadau, cydnabod eu cyfraniad, gwybodaeth a'u hawliau.
- Gwrando - byddwn yn hyrwyddo argaeledd a hawliau gofalwyr i asesiad o'u hanghenion eu hunain fydd yn canolbwyntio ar wrando ar y gofalwr, gwerthfawrogi eu profiadau a gweithredu proses yn canoli ar ofalwyr gyda chanlyniadau realistig.
Sut gallaf i fel gofalwr gael mynediad i help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Mae gan unrhyw ofalwr sy'n rhoi gofal rheolaidd i aelod o'u teulu neu gyfaill hawl yn ôl y gyfraith i gael asesiad o'u hanghenion. Gelwir yr asesiad yma yn 'Asesiad Gofalwr' ac os credwch y byddai'r asesiad yma o help i chi fel gofalwr teulu, yna cysylltwch â'r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01495 315700 neu anfon e-bost at DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk.
Mae'r 'Asesiad Gofalwyr' yn gyfweliad neu gyfres o gyfweliadau gyda gofalwr, i benderfynu pa help personol y gall y gofalwr fod ei angen i fedru parhau i ofalu am y person y maent yn 'gofalu' amdano/amdani. Mae'r asesiad yn gyfle i'r gofalwr feddwl amdanynt eu hunain a pha gefnogaeth sydd ei angen.
Beth yw diben asesiad?
Mae'r asesiad yn galluogi gweithwyr cymdeithasol i ymchwilio gyda'r gofalwr:
- lefel y gofal y gall y gofalwr ei roi
- pa mor gynaliadwy yw'r sefyllfa ofalu
- iechyd y gofalwr
- eu hamgylchiadau personol a galluoedd ac anghenion unigol
Dogfennau Cysylltiedig
- Deall eifch hawliau gofal a chymorth wrth i chi fynd yn hyn
- Deall eich hawliau fel gofalwr
- Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Blaenau Gwent
- Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2017 - Llanhiledd
- Diwrnod Hawliau Goralwyr 2017 - Blaenau
- Gofal a Chefnogaeth Taflen
- Ein gweledigaeth a'n bwriadau ar gyfer eiriolaeth i oedolion
- Prosiect Gofalwyr Ifanc
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
IAA Gwasanaethau Oedolion
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: duty.team@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285