Ydw i’n gymwys

Pwy sy’n gallu cael bathodyn glas?

Mae unrhyw dros ddwy flwydd oed ag anabledd parhaol neu sylweddol sy’n effeithio ar eu symudedd yn gallu ymgeisio am fathodyn glas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen o’r enw Sut ydw i’n cael Bathodyn Glas? Canllaw i Ymgeiswyr yng Nghymru sy’n esbonio pwy sy’n gymwys am fathodyn a gwirydd cymhwysedd am Fathodyn Glas ar-lein.

Mae dau lwybr i fod yn gymwys am fathodyn glas, cymhwysedd awtomatig a chymhwysedd yn ôl disgresiwn.

Cymhwysedd awtomatig

Rydych yn gymwys yn awtomatig am fathodyn glas os ydych yn hŷn na ddwy flwydd oed ac yn cyfateb i un o’r disgrifiadau canlynol:

Yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Yn derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) Gweithgaredd Symudedd ar gyfer Cynllunio a Dilyn Taith – categori F a/neu Symud o Amgylch – categorïau C, D, E a F (NEWID I BWYNTIAU)

Wedi’ch cofrestru fel person dall

Yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel (WPMS)

Wedi derbyn budd-dal cyfandaliad ar dariff 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ac yn ardystiedig fel cael anabledd parhaol neu sylweddol sy’n achosi analluedd i gerdded neu anhawster mawr iawn yn cerdded.

Am ragor o wybodaeth ar y meini prawf cymhwysedd a’r gofynion o ran tystiolaeth, edrychwch ar Feini Prawf Cymhwysedd y Bathodyn Glas Llywodraeth Cymru.

Meini prawf cymhwysedd yn ôl disgresiwn (3 blwydd oed neu’n hŷn)

Gallech fod yn gymwys am fathodyn glas os ydych yn ddwy flwydd oed neu’n hŷn, ag anabledd parhaol a sylweddol ac yn cyfateb i unrhyw un o’r disgrifiadau canlynol:

Methu cerdded neu’n cael cryn anhawster yn cerdded

Ag anabledd difrifol yn y ddwy fraich, yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond yn methu troi’r olwyn lywio â llaw, hyd yn oed os oes carn troi arni.

Yn gyrru cerbyd heb ei addasu yn rheolaidd ond yn methu gweithredu neu’n cael anhawster yn gweithredu mesuryddion parcio neu offer talu ac arddangos oherwydd namau difrifol yn y ddwy fraich

Meini prawf cymhwysedd yn ôl disgresiwn (3 blwydd oed neu’n iau)

Gall plant o dan dair blwydd oed fod yn gymwys am fathodyn os ydyw’n cyfateb i un o’r canlynol:

Plentyn sydd, oherwydd cyflwr meddygol, angen cario offer meddygol trwm ar bob adeg, a bod dim modd i’r plentyn ei gario o amgylch heb lawer o anhawster, NEU

​Blentyn sydd, oherwydd cyflwr meddygol, angen bod yn agos at gerbyd modur ar bob adeg er mwyn iddynt allu derbyn triniaeth, os oes angen, ar gyfer y cyflwr hwnnw yn y car neu fod modd mynd â’r plentyn yn sydyn yn y cerbyd i le ble gellir derbyn triniaeth o’r fath.

Meini prawf cymhwysedd yn ôl disgresiwn (Nam ar y Synhwyrau)

Ar ben hynny, gall bobl â Nam ar y Synhwyrau fod yn gymwys am fathodyn glas os ydynt naill ai:

Yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Gofal y Lwfans Byw i'r Anabl (HRCCDLA) ac yn cael anhawster yn cynllunio neu ddilyn taith i’r fath graddau bod angen goruchwyliaeth barhaol arnynt, NEU

Yn cael anhawster yn cynllunio neu ddilyn taith i’r fath graddau bod angen goruchwyliaeth barhaol arnynt.

Gallai hyn gynnwys pobl sy’n cael anhawster yn cynllunio neu ddilyn taith oherwydd Awtistiaeth, Clefyd Alzheimer, Dementia, Strôc, Anabledd Dysgu, Anaf i’r Pen neu eu hiechyd meddwl. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Gwybodaeth Gyswllt

C2BG
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Adran Bathodyn Glas
Y Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN