Datblygu Lleol Addasedig

Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol ar 22 Tachwedd 2012. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn nodi ymhle y bydd datblygiadau newydd fel tai, cyflogaeth, addnoddau cymunedol a ffyrdd yn mynd.  

Mae’r CDLl yn amlinellu ein polisïau a’n cynigion ar gyfer rheoli datblygiad yn y fwrdeistref sirol hyd at 2021, ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dyfarnu ceisiadau cynllunio yn gyson ac yn briodol.  Mae’r cynllun yn rhoi gwybodaeth eglur ynghylch ymhle y cefnogir datblygiad ac ymhle y’i gwrthodir.

Sut gallaf gael copi o'r Cynllun?

Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol ar Dachwedd 22, 2012 ac mae’n cynnwys tair rhan, sef Datganiad Ysgrifenedig, Atodiadau  i’r Datganiad Ysgrifenedig a Map Cynigion sydd ar gael i’w lawrlwytho isod:

Cysylltwch â pholisi cynllunio os byddai'n well gennych brynu copi caled o'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae pob copi'n costio £35 yn cynnwys postio a phacio.

Dogfennau eraill y Cynllun Datblygu Lleol

Archwiliad o'r Cynllun Datblygu Lleol

 

 

Fel rhan o broses paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol, cafodd y Drafft Adnau o'r Cynllun Datblygu Lleoil ei archwilio'n annibynnol gan Arolygydd Cynllunio a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Cyflwynodd y cyngor y Cynllun i'w archwilio ar 3 Chwefror 2012. Cynhaliwyd sesiynau llafar rhwng 26 Mehefin a 17 Gorffennaf 2012. Casgliad adroddiad yr Arolygwyr dyddiedig 8 Tachwedd 2012 y bod y Cynllun Datblygu Lleol (gyda dau newid a argymhellir yn gadarn). Gweld Adroddiad yr Arolygwyr.  

Adolygiad Cyntaf CDLl

Sbardunodd Cynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent adolygiad ym mis Tachwedd 2016.  Am ragor o fanylion, cliciwch yma.